Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
ehangu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Ogof]] hanesyddol ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] yw '''Ogof Paviland'''. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Hen Oes y Cerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[arth|eirth]]. Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Pafiland".
[[Ogof]] cynhanesyddol ger [[Rhosili]] ar y [[Gŵyr]] yw '''Ogof Paviland'''. Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o [[Oes yr Hen Gerrig]], dannedd [[blaidd|bleiddiaid]] ac esgyrn [[arth|eirth]].

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd [[sgerbwd]] corff dynol o Oes yr Hen Gerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac [[archaeoleg]]ydd cynnar [[William Buckland]] yn [[1823]] yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ''ochre'' coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn [[Ewrop]] i gyd. Cafwyd [[penglog]] [[mamoth]] yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen [[callestr]], sydd efallai i'w dyddio i'r [[cyfnod Aurignasiaidd]].


==Cysylltiad allanol==
==Cysylltiad allanol==
Llinell 8: Llinell 12:
[[Categori:Ogofâu Cymru]]
[[Categori:Ogofâu Cymru]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Oes yr Hen Gerrig yng Nghymru]]

[[en:Red Lady of Paviland]]

Fersiwn yn ôl 21:03, 6 Chwefror 2007

Ogof cynhanesyddol ger Rhosili ar y Gŵyr yw Ogof Paviland. Yn gywirach mae'n gyfres o ogofâu cysylltiedig a fu'n gartref i ddynion filoedd o flynyddoedd cyn Crist. Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Oes yr Hen Gerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Oes yr Hen Gerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21 oed ydyw. Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond yn anffodus mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cysylltiad allanol



 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.