Wicipedia:Tiwtorial: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sw:Wikipedia:Mwongozo yn tynnu: tt:Ярдәм:Däreslek (deleted)
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: it:Aiuto:Tutorial (strong connection between (2) cy:Wicipedia:Tiwtorial and it:Aiuto:Guida essenziale)
Llinell 44: Llinell 44:
[[hu:Wikipédia:Az első lépések]]
[[hu:Wikipédia:Az első lépések]]
[[id:Wikipedia:Tutorial]]
[[id:Wikipedia:Tutorial]]
[[it:Aiuto:Tutorial]]
[[ja:Wikipedia:ガイドブック]]
[[ja:Wikipedia:ガイドブック]]
[[jv:Wikipedia:Tutorial]]
[[jv:Wikipedia:Tutorial]]

Fersiwn yn ôl 15:53, 2 Medi 2011

Cyflwyniad   Golygu   Chwilio   Dolennau   Ffynonellau   Mewngofnodi   Sgwrs   Ymestynol   Arall    

Tiwtorial golygu Wicipedia – Cyflwyniad

Gwyddoniadur a olygir ar y cyd ydy Wicipedia a gallwch chi gyfrannu ato. Bydd y tiwtorial hwn yn eich helpu i fod yn gyfrannwr i Wicipedia.

Bydd y tudalennau canlynol yn cynnig arweiniad i chi ynglŷn ag arddull a chynnwys erthyglau Wicipedia, ac yn esbonio wrthych chi am gymuned Wicipedia a phwysigrwydd polisïau a chonfensiynau Wicipedia.

Tiwtorial sylfaenol yw hwn, nid canllaw manwl. Os hoffech fwy o wybodaeth, ceir dolenni i dudalennau eraill sy'n cynnwys esboniadau ehangach. I'u darllen wrth fwrw ati, gallwch eu hagor mewn ffenestr bori neu dab arall.

Mae yna ddolenni i dudalen y "pwll tywod" lle gallwch ymarfer yr hyn rydych yn ei ddysgu. Arbrofwch a chwaraewch! Ni fydd ots gan neb os rydych yn gwneud camgymeriad ac yn arbrofi yn yr adrannau ymarfer hynny.

Sylwer: Mae'r tiwtorial yn cymryd yn ganiataol eich bod yn defnyddio gosodiadau diofyn y dudalen. Os rydych wedi mewngofnodi ac wedi newid eich dewisiadau, mae'n bosibl y bydd lleoliad y dolenni'n wahanol.