Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Y Fedal Ryddiaith: ble y magwyd yn amherthnasol i'r erthygl |
|||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
== Maes B == |
== Maes B == |
||
Campws [[Prifysgol Glyndŵr]], Wrecsam, |
Campws [[Prifysgol Glyndŵr]], Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, [[Yucatan (band)|Yucatan]], Land of Bingo, [[Breichiau Hir]], [[Y Niwl]], [[Meic Stevens]], Lleuwen a Gildas, [[Elin Fflur]], Al Lewis Band, Yr Angen, [[Yr Ods]], [[Y Bandana]], Y Trydan, [[Plant Duw]], [[Sbrigyn Ymborth|Jen Jeniro]], Sensegur, [[Acid Casuals]] a’u set DJ, Plyci, [[Crash.Disco!]], Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, [[Cowbois Rhos Botwnnog]], [[Gai Toms]], Catrin Herbert, [[Sibrydion]], [[Masters in France]], Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.<ref>[http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=478 Gwefan Swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol]</ref> |
||
==Prif gystadlaethau== |
==Prif gystadlaethau== |
Fersiwn yn ôl 08:34, 2 Medi 2011
- |
||||
Lleoliad | Wrecsam | |||
Cynhaliwyd | 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011 | |||
Archdderwydd | T. James Jones | |||
Gwefan | www.eisteddfod.org.uk |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.
Maes B
Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[1]
Prif gystadlaethau
Y Coroni
Enillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon. Daeth 36 ymgais i fewn ond ni ellid ystyried un ohonynt oherwydd ei fod wedi cynganeddu a doedd y dasg ddim yn caniatáu hyn. Roeddent i lunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Gwythiennau'. Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni Delysg ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas wedi rhoi'r un tri ar y brig, tri a oedd yn haeddu'r wobr, O'r Tir Du, Promethews a Fena Cafa.
Y Cadeirio
Enillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair.
Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.
Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.
Tlws y Cerddor
Meirion Wynn Jones enillodd y tlws eleni.[2]
Gwobr Goffa Daniel Owen
Daniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anrhefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.
Cyngherddau
Y Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur ac Al Lewis Band.