Buwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Сиыр |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ur:گائے |
||
Llinell 156: | Llinell 156: | ||
[[ug:ئىنەك]] |
[[ug:ئىنەك]] |
||
[[uk:Корова]] |
[[uk:Корова]] |
||
[[ur:گائے]] |
|||
[[vec:Vaca]] |
[[vec:Vaca]] |
||
[[vi:Bò nhà]] |
[[vi:Bò nhà]] |
Fersiwn yn ôl 00:23, 31 Awst 2011
Gwartheg | |
---|---|
Delwedd:Buwch.jpg | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Bovidae |
Is-deulu: | Bovinae |
Genws: | Bos |
Rhywogaeth: | B. taurus |
Enw deuenwol | |
Bos taurus Linnaeus, 1758 |
Anifail dof yw buwch (lluosog buchod). Maent yn cael eu magu am eu llefrith a'u cig. Tarw yw enw'r gwryw, a llo yw'r epil. Gelwir anifail gwryw sydd wedi ei ysbaddu yn fustach. Mae'r enw lluosog gwartheg yn cwmpasu'r cwbl, yn wryw, benyw ac epil.
Ych
Fe ddefnyddir gwartheg (gwrywaidd gan amlaf) at waith tynnu ar ffermydd, er bod yr arfer hwn wedi dod i ben i raddau helaeth yng Nghymru a gwledydd datblygedig eraill yn sgil dyfodiad y tractor. Gelwir bustach sydd wedi ei fagu at waith tynnu yn ych. Fe ddefnyddir ychen i aredig, i dynnu trol, cert, coed neu lwyth arall ac i weithio pwmp dŵr i ddyfrhau.
Gan amlaf defnyddir dau ych i weithio ar y cyd. Fe roddir iau ar eu gwarrau fel bod y gwaith tynnu yn cael ei rannu ar draws eu hysgwyddau. Dewisir ychen â chyrn ganddynt at y gwaith fel bod modd defnyddio’r cyrn i gadw’r iau yn ei le pan fydd yr ychen yn arafu, yn cerdded am yn ôl neu yn gostwng eu pennau.