Ieithoedd Slafonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Daffy (sgwrs | cyfraniadau)
cyfeiriadau
Llinell 10: Llinell 10:
==Ffynonellau==
==Ffynonellau==
Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. ''The Slavonic languages''. Llundain: Routledge.
Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. ''The Slavonic languages''. Llundain: Routledge.
De Bray, Reginald G. A. 1970. ''Guide to the Slavonic languages''. Llundain.
Horálek, K. 1992. ''Introduction to the study of the Slavonic languages''. Nottingham: Astra Press.


[[Category:Ieithoedd Slafaidd|*]]
[[Category:Ieithoedd Slafaidd|*]]

Fersiwn yn ôl 01:01, 6 Chwefror 2007

     Gwledydd lle mae iaith Slafaidd Orllewinol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafaidd Ddwyreiniol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafaidd Ddeheuol yn iaith genedlaethol

Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r ieithoedd Slafaidd. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafaidd gorllewinol (Pwyleg, Slofaceg, Sorbeg a Tsieceg), yr ieithoedd Slafaidd dwyreiniol (Belarwsieg, Rwsieg ac Wcreineg, a'r ieithoedd Slafaidd deheuol (Bosneg, Bwlgareg, Croateg, Macedoneg, Serbeg a Slofeneg). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafaidd eraill wedi marw: Hen Slafoneg Eglwysig (Slafoneg deheuol) a Polabeg (iaith Slafiaid gogledd-orllewin yr Almaen).

Heddiw mae'r ieithoedd Slafaidd yn defnyddio naill ai'r wyddor Gyrilig neu'r wyddor Ladin ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafaidd gorllewinol a deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio Bwlgareg, Macedoneg, ac, i radd helaeth, Serbeg, sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafaidd dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer Hen Slafoneg Eglwysig gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif ymlaen yn y gwledydd Slafaidd deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffynonellau

Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. The Slavonic languages. Llundain: Routledge. De Bray, Reginald G. A. 1970. Guide to the Slavonic languages. Llundain. Horálek, K. 1992. Introduction to the study of the Slavonic languages. Nottingham: Astra Press.