Poggio Bracciolini: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
BDim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }} |
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | dateformat = dmy }} |
||
Ysgolhaig clasurol, [[ceinlythrennu|ceinlythrennwr]], a [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiwr]] oedd '''Gian Francesco Poggio Bracciolini'' ([[11 Chwefror]] [[1380]] – [[30 Hydref]] [[1459]]) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif [[Lladin]] glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop. |
Ysgolhaig clasurol, [[ceinlythrennu|ceinlythrennwr]], a [[dyneiddiaeth y Dadeni|dyneiddiwr]] oedd '''Gian Francesco Poggio Bracciolini''' ([[11 Chwefror]] [[1380]] – [[30 Hydref]] [[1459]]) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif [[Lladin]] glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop. |
||
Ganed yn Terranuova, [[Gweriniaeth Fflorens]], a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. Gweithiodd yn [[Fflorens]] yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y [[teip (teipograffeg)|teipiau]] Rhufeinig. |
Ganed yn Terranuova, [[Gweriniaeth Fflorens]], a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. Gweithiodd yn [[Fflorens]] yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y [[teip (teipograffeg)|teipiau]] Rhufeinig. |
Fersiwn yn ôl 19:27, 31 Gorffennaf 2020
Poggio Bracciolini | |
---|---|
Ganwyd | Giovanni Francesco Poggio Bracciolini 11 Chwefror 1380 Terranuova Bracciolini |
Bu farw | 30 Hydref 1459 Fflorens |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens, Taleithiau'r Babaeth, yr Eidal |
Galwedigaeth | hanesydd, ysgolhaig clasurol, athronydd, cyfieithydd, ysgrifennwr |
Plant | Iacopo Bracciolini |
Ysgolhaig clasurol, ceinlythrennwr, a dyneiddiwr oedd Gian Francesco Poggio Bracciolini (11 Chwefror 1380 – 30 Hydref 1459) sydd yn nodedig am ailddarganfod sawl llawysgrif Lladin glasurol mewn llyfrgelloedd mynachaidd Ewrop.
Ganed yn Terranuova, Gweriniaeth Fflorens, a leolir heddiw yn nhalaith Arezzo. Gweithiodd yn Fflorens yn adysgrifennu llawysgrifau, ac wrth ei waith fe ddyfeisiai'r ysgrifen ddyneiddiol, ar sail y llaw fân Garolingaidd. Cafodd yr arddull hwnnw ei ddynwared a'i gaboli gan gopiwyr llawysgrifau gan ddatblygu yn ffurf gynnar ar y teipiau Rhufeinig.
Ym 1403 symudodd i Rufain a fe'i penodwyd yn ysgrifennydd i'r Pab Boniffas IX. Yn Abaty Cluny ym 1415 daeth o hyd i ddau araith gan Cicero, a gyfrannai darganfyddiadau Poggio at Ciceroniaeth yr oes. Ym 1416, daeth o hyd i'r testun cyflawn cyntaf o Institutio oratoria gan Quintilian, tri o lyfrau Argonautica a rhan o un arall gan Valerius Flaccus, a sylwebaeth Asconius Pedianus ar areithiau Cicero, i gyd yn llyfrgell Abaty Sant Gall. Aeth ar sawl taith i Fulda a mynachlogydd eraill i chwilio am ragor o lawysgrifau, ac ym 1417 canfuwyd De significatu verborum gan Sextus Pompeius Festus, De rerum natura gan Lucretius, Astronomica gan Manilius, Punica gan Silius Italicus, Res gestae gan Ammianus Marcellinus, a'r llyfr coginio Apicius. Daeth o hyd i ragor o areithiau Cicero yn Langres ac yng Nghwlen.[1]
Treuliodd y cyfnod 1418–23 yn Lloegr, ond methodd i ganfod llawysgrifau anhysbys yn y llyfrgelloedd yno. Fe'i ailbenodwyd yn ysgrifennydd yn Rhufain ym 1423, a daeth o hyd i ragor o lawysgrifau Lladin ar draws yr Eidal, gan gynnwys De aquaeductibus gan Frontinus a Matheseos libri gan Firmicus Maternus. Cyfieithodd Poggio sawl gwaith o'r Hen Roeg i'r Lladin, gan gynnwys Cyropaedia gan Xenophon, gweithiau hanes Diodorus Siculus, ac Onos gan Lucianus. Bu hefyd yn astudio pensaernïaeth yr Henfyd ac yn casglu arysgrifau a cherfluniaeth glasurol.
Wedi marwolaeth Carlo Aretino ym 1453, penodwyd Poggio yn ganghellor Fflorens, a threuliodd ddiwedd ei oes yn llywodraethu'r weriniaeth ac yn ysgrifennu hanes y ddinas. Bu farw yn Fflorens yn 79 oed.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Gian Francesco Poggio Bracciolini. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2020.