Elmet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat Oesoedd Canol Tagiau: Golygiad cod 2017 |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Brythoniaid}} |
{{Brythoniaid}} |
||
Teyrnas [[Brythoniaid|Frythonig]] [[ôl-Rufeinig]] oedd '''Elmet''' (Cymraeg Diweddar: '''[[Elfed]]''') a adwaenid yng [[Cymru'r Oesoedd Canol|Nghymru'r Oesoedd Canol]] fel un o deyrnasoedd [[yr Hen Ogledd]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 330.</ref> Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] |
Teyrnas [[Brythoniaid|Frythonig]] [[ôl-Rufeinig]] oedd '''Elmet''' (Cymraeg Diweddar: '''[[Elfed]]''') a adwaenid yng [[Cymru'r Oesoedd Canol|Nghymru'r Oesoedd Canol]] fel un o deyrnasoedd [[yr Hen Ogledd]].<ref>''Gwyddoniadur Cymru'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), tud. 330.</ref> Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn [[Swydd Efrog]] yng ngogledd [[Lloegr]], yn yr ardal o gwmpas dinas [[Leeds]]. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod [[Afon Sheaf]] yn ffin iddi yn y de, ac [[Afon Wharfe]] yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar [[Deira]] ac yn y de ar [[Mercia]]. |
||
Ymosodwyd ar Elmet gan [[Northumbria]] yn hydref [[616]] neu [[626]]. yn yr ''[[Historia Brittonum]]'', a briodolir i [[Nennius]], ceir sôn am [[Edwin, brenin Northumbria]] ''"occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis"'' ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd [[Ceredig ap Gwallog|Certic]], brenin y wlad honno"). |

Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Cadwyd dwy gerdd yn ''[[Llyfr Taliesin]]'' i [[Gwallog|Gwallog ap Llaennog]], oedd yn frenin Elfed tua diwedd y [[6g]]. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y [[Taliesin]] hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn [[marwnad|farwnad]] iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.<ref>Ifor Williams (gol.), ''Canu Taliesin'', tt. xxxvi-xxxix a cherddi XI a XII.</ref> |

==Brenhinoedd Elmet== |
==Brenhinoedd Elmet== |
||
*[[Masgwig Gloff]] (c.460 - c.495) |
*[[Masgwig Gloff]] (c.460 - c.495) |
Fersiwn yn ôl 15:36, 31 Gorffennaf 2020
Allwedd: |
Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet (Cymraeg Diweddar: Elfed) a adwaenid yng Nghymru'r Oesoedd Canol fel un o deyrnasoedd yr Hen Ogledd.[1] Roedd ei thiriogaeth yn yr hyn sy'n awr yn Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr, yn yr ardal o gwmpas dinas Leeds. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mercia.
Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").
Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol yn "Elmet".
Ceir cyfeiriad at Elmet mewn arysgrif ar garreg fedd gynnar yn Llanaelhaearn yng Ngwynedd, "ALIOTVS ELMETIACOS HIC IACET", neu "Yma y gorwedd Aliortus o Elmet".
Cadwyd dwy gerdd yn Llyfr Taliesin i Gwallog ap Llaennog, oedd yn frenin Elfed tua diwedd y 6g. Er bod testunau'r ddwy gerdd i'w cael yng nghanol y canu a dderbynnir fel cerddi dilys y Taliesin hanesyddol does dim sicrwydd eu bod yn waith y bardd hwnnw. Mae un o'r cerddi yn fawl i Wallog sy'n rhestru ei fuddugoliaethau ac mae'r llall yn farwnad iddo. Mae'r iaith yn ddigon astrus.[2]
Brenhinoedd Elmet
- Masgwig Gloff (c.460 - c.495)
- Llaennog ap Masgwig (c.495 - c.540)
- Arthwys ap Masgwig (c.540 - c.560)
- Gwallog ap Llaennog (c.560 - 590)
- Ceredig ap Gwallog (590 - 616) d. 618
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
- David Rollason, Northumbria, 500-1100, Cambridge University Press (2003)
- Christopher A Snyder, The Britons, Blackwell Publishing (2003)
- Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960; adargraffiad 1977)