Oberon (lloeren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
B Oberon wedi'i symud i Oberon (lloeren) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:58, 5 Chwefror 2007
Delwedd:94908835 cb37586704 m.jpg
Oberon yw'r fwyaf allanol o loerennau mawr Wranws:
Cylchdro: 583,420 km oddi wrth Wranws
Tryfesur: 1523 km
Cynhwysedd: 3.03e21 kg
Brenin y Tylwyth Teg yw Oberon yn y ddrama Midsummer Night's Dream gan Shakespeare.
Cafodd ei darganfod gan Herschel ym 1787.
Mae Oberon ac Umbriel yn ymddangos yn debyg i'w gilydd er bod Oberon 35% yn fwy. Fel lloerennau eraill Wranws, mae Oberon wedi ei chyfansoddi o 40-50% iâ dŵr a 50-60% deunydd creigiog. Mae arwyneb Umbriel yn llawn o graterau ac yn ôl pob tebyg mae wedi bod yn sefydlog ers iddi ffurfio. Mae gan Oberon fwy o graterau -a rhai mwy eu maint- nag Ariel a Thitania. Mae gan rhai ohonynt belydrau o ejecta (deunydd sy'n cael ei allfwrw pan fo gwrthrych yn taro'r arwyneb), yn debyg i'r rhai a welir ar Galisto.
Mae gwaelodion rhai o'r craterau'n dywyll, efallai wedi eu cuddio gan ddeunydd tywyll (o bosib dŵr budr) sydd wedi goferu i mewn i'r crater.
Gwelir anafau ar draws hemisffer deheuol Oberon. Mae hynny'n awgrymu gweithgarwch geolegol yn gynnar yn hanes Oberon.