Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
Yn dileu "Images_by_North_Wales_Police_on_22_May_2020_Bank_Holiday_with_Warning.jpg". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Túrelio achos: Copyright violation: The claimed [https://twitter.com/NWPolice/status/126519532474
Llinell 38: Llinell 38:


[[Delwedd:Llwybr wedi cau coronafirws Footpath closed Rhuthun Cymru Wales.png|bawd|197x197px|Arwydd ar giât lwybr sy'n mynd trwy fferm yn Rhuthun yn dynodi ei fod ar gau o ganlyniad bod gweithiwr yn dioddef o ffibrosis cystig.]]
[[Delwedd:Llwybr wedi cau coronafirws Footpath closed Rhuthun Cymru Wales.png|bawd|197x197px|Arwydd ar giât lwybr sy'n mynd trwy fferm yn Rhuthun yn dynodi ei fod ar gau o ganlyniad bod gweithiwr yn dioddef o ffibrosis cystig.]]

[[Delwedd:Images by North Wales Police on 22 May 2020 Bank Holiday with Warning.jpg|bawd|Rhybudd ar Twitter gan Heddlu Gogledd Cymru na chaniateir gyrru i dai haf.]]


==Diffyg offer personol==
==Diffyg offer personol==

Fersiwn yn ôl 06:46, 30 Gorffennaf 2020

COVID-19 yng Nghymru
AfiechydCOVID-19
Straen firwsSARS-CoV-2
LleoliadCymru
Achos gwreiddiol cyntafWuhan, China
Dyddiad cyrraedd28 Chwefror 2020
Achosion wedi cadarnhau17,223 (ar 29 Gorffennaf 2020)[1]
Wedi gwelladros 5,500
Marwolaethau
1,554 (ar 29 Gorffennaf 2020)[2]
Gwefan swyddogol
Coronavirus yng Nghymru
Am ystadegau o achosion gweler: Ystadegau y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru

Yn Rhagfyr 2019 ymddangosodd y clefyd COVID-19, neu'r Gofid Mawr yn Wuhan, Tsieina. Ar 24 Ionawr 2020 dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod cynlluniau yn eu lle yng Nghymru ar gyfer ymlediad epidemig o'r firws.[3] Ar y diwrnod hwn, hefyd, nododd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi profi un claf am yr haint, ond ei fod yn glir; yn Wuhan, roedd 26 wedi marw a Llywodraeth Tsieina wedi cyhoeddi cyfnod clo (neu "lockdown" yn Saesneg) llwyr. Ar 1 Chwefror canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[4]

Drwy wanwyn 2020, lledaenodd y clefyd yn fyd-eang, gyda WHO yn ei alw'n "bryder rhyngwladol" ar 30 Ionawr ac yn bandemig" ar 11 Mawrth 2020.[5][5][6]

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, ar y dydd olaf o Fawrth nododd Llywodraeth Cymru fod 1,300 o weithwyr iechyd a gofal wedi ymddeol wedi cytuno i ddychwelyd i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd, gyda'r ffigwr hwn yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a dros 400 o nyrsys a bydwragedd. Ar 17 Mawrth, neilltuodd Llywodraeth Cymru £200 miliwn ar gyfer y byd busnes ac ar 30 Mawrth, rhyddhawyd pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus.[7]

#invoke:Bar box

Arwydd ar giât lwybr sy'n mynd trwy fferm yn Rhuthun yn dynodi ei fod ar gau o ganlyniad bod gweithiwr yn dioddef o ffibrosis cystig.


Diffyg offer personol

Mae iechyd wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru ac efallai mai un o'r pryderon pennaf oedd y diffyg offer a chyfarpar diogelu personol (PPE) yng Nghymru, a gweddill gwledydd Prydain hefyd. Ar 14 Ebrill, cyhoeddodd The National fod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) wedi gofyn i gwmnïau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban.[8][9][10]

Profion

Ar 24 Mawrth datgelodd Gweinidog Iechyd Cymru fod cytundeb wedi'i arwyddo gyda chwmni o'r Swistir i ddarparu 5,000 brofion y dydd a 9,000 erbyn diwedd mis Ebrill. Yn ddiweddarach, deallwyd mai'r cwmni Roche ydoedd.[11] Yn ddiweddarach daeth yn wybyddus fod pwysau wedi'i roi ar gwmni Roche a nifer o gwmnïau yn Lloegr i ddarparu'r profion (a dillad amddiffynol) i Loegr yn unig. Er i nifer o bobl, gan gynnwys Adam Price ofyn i'r manylion gael eu rhyddhau, mynnod Gething na fydd hyn yn digwydd, tan wedi i'r pandemig gilio.

Llinell amser

Dyma grynodeb byr o'r digwyddiadau a cerrig milltir y firws yng Nghymru.

Rhagfyr 2019

Cwsmer yn ciwio yn saff a derbyn gwasanaeth drwy ffenest siop "Treehouse", Stryd y Popty, Aberystwyth
Arwydd cefnogaeth i Weithwyr Hanfodol ac i gwsmeriaid ar ffenest Banc Barclays, Aberystwyth
Arwydd rhybudd COVID-19 ar bil-fwrdd drydanol ger Gorsaf reilffordd Aberystwyth
Marciau yn cymell pellter sefyll wrth giwio, bwyty Shilam, Gorsaf reilffordd Aberystwyth
dechrau Rhagfyr
  • Connor Reed, bachgen 25 oed o Lanrwst, a weithiai mewn coleg yn Wuhan yn dal y firws COVID-19. Dyma'r cyntaf o wledydd Prydain i ddal y firws.[12]

Ionawr 2020

1 Chwefror
  • canslwyd y digwyddiad cyntaf yng Nghymru, sef Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor a oedd i'w gynnal ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror.[13]
24 Ionawr

Chwefror

2 Chwefror
  • y person cyntaf y tu allan i Tsieina yn marw o'r clefyd; roedd y dyn 44-oed yn byw yn Y Philipinau, ond newydd ddychwelyd o Wuhan, Tsieina.
28 Chwefror
  • Coronafeirws: Achos cyntaf Cymru wedi'i ganfod yn Abertawe.[15]

Mawrth

Datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn stopio cerbydau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, gan geisio atal ymlediad y firws. 27 Mawrth 2020.
5 Mawrth
  • Golwg 360 yn nodi fod 2 wedi eu profi'n bositif.[16][17]
7 Mawrth
10 Mawrth
13 Mawrth
  • Gem y chwe gwlad Cymru yn erbyn Yr Alban yn cael ei gohirio.[19]
16 Mawrth
  • Y person cyntaf yng Nghymru yn marw o COVID-19.[20]
17 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi eu bod yn neilltuo £200 miliwn ar gyfer y byd busnes, i'w digolledu oherwydd effaith y Gofid Mawr.[21]
20 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru ar yr 18fed o Fawrth yn gorchymyn cau ysgolion o'r 20fed o Fawrth (dydd Gwener). Dywedodd y llywodraeth y byddai arholiadau TGAU a Lefel A yr haf hwn hefyd yn cael eu canslo.[22]
21 Mawrth
  • twristiaid yn tyrru i fewn i Gymru i'w tai haf a'u carafannau; posteri a cheir yn cael eu gosod i geisio atal hyn a galw mawr ar Lywodraeth Cymru i ymateb.
23 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru yn gorchymyn cau safleoedd gwersylla a chyrchfannau twristiaeth poblogaidd yng Nghymru.[23]
25 Mawrth
27 Mawrth
  • cyhoeddodd Stadiwm y Mileniwm eu bod am gydweithio i droi'r stadiwm yn ysbyty dros dro i 2,000 o gleifion
Llythyr Boris Johnson (Prif Weinidog) a thaflen gwybodaeth gyhoeddus amdano'r Coronafeirws yn y Gymraeg. Danfonwyd gan Lywodraeth y DU i bob tŷ yng Nghymru yn ystod yr pandemig.


28 Mawrth
  • Cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni fferyllol Roche i gynyddu'r profion COVID-19 i 5,000 y dydd yn methu.[25]
30 Mawrth
  • Llywodraeth Cymru yn rhyddhau pecyn cymorth gwerth £1.1bn ar gyfer yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.[26]

Ebrill

1 Ebrill
Ciplun o wefan un o brif gyflenwr offer meddygol PPE, Gompels. Disgrifia'r mygydau roedd yn ei gynhyrchu, a nodwyd yn glir mai dim ond cartrefi gofal yn Lloegr a allai brynu'r cynnyrch hyn, o dan orchmynion gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
7 Ebrill
  • Llywodraeth Cymru yn dod a chyfraith i rym sy'n rhoi cyfrifoldeb ar gyflogwyr gweithwyr allweddol (heblaw am GIG) i gadw eu staff 2 fetr ar wahân.[28]
8 Ebrill
  • Llywodraeth Cymru'n cadarnhau y bydd y cyfyngiadau yn aros mewn lle ar ol y 3 wythnos wreiddiol. [29]
  • Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn gofyn am gymorth brys ar ôl i ffermwyr llaeth.[30][31]
9 Ebrill
  • Perchennog cartrefi gofal yn dweud bod cwmnïau yn Lloegr yn gwrthod gwerthu offer gwarchod personol (PPE) i Gymru[32]
11 Ebrill
13 Ebrill
  • Pobl Cymru yn cyd-gannu'r anthem genedlaethol am 8 o’r gloch yr hwyr er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad i weithwyr allweddol GIG.
  • Canolfan profi yn Stadiwm Dinas Caerdydd rhaid cau oherwydd 'resymau gweithredol'.[34][35]
Tystiolaeth gan The National fod cyfarwyddyd wedi ei roi gan Lywodraeth Lloegr y dylai offer PPE gael ei roi i Loegr, ac nid i'r Alban na Chymru.
Murlun sialc adeg COVID-19 & cofio diwrnod VE, tŷ ar A44 mynedfa i Llanbadarn Fawr, Aberystwyth
Arwydd pellter cymdeithasol COVID-19, siop yn Aberystwyth
14 Ebrill
  • Papur newyddion The National yn dweud bod Llywodraeth y DU a PHE (Public Health England) yn gofyn i gwmnïau offer PPE yn Lloegr i beidio danfon offer i gartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban.[36][37]
  • Ffigyrau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos 82 yn fwy o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig â Covid-19 nag a adroddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru erbyn dechrau mis Ebrill. [38]
17 Ebrill
  • Marwolaethau yn pasio hanner mil: 506.
  • Mark Drakeford yn dweud yn y briff dyddiol efallai bydd rhaid i Gymru gymryd camau gwahanol 'os oes angen'[39].
  • Plaid Cymru ac Y Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau "cydraddoldeb o ran tâl ac amodau" rhwng gweithwyr iechyd a gofal.[40]

18 Ebrill

  • Arolwg gan y Coleg Brenhinol y Nyrsys yn dweud bod 54% o'r rhai a holwyd yn "teimlo dan bwysau" i ofalu heb yr offer digonol. [41][42]

19 Ebrill

20 Ebrill

21 Ebrill

  • Yr Athro Syr Martin Evans yn cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau". [48]

22 Ebrill

  • Dominic Raab yn beirniadu Llywodraeth Cymru am ollwng targedau profi.[49]
  • 15 uwch ddoctoriaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud defnyddio ail gartrefi yn anghyfreithlon.[50][51]

23 Ebrill

  • Tarian Cymru (mudiad codi arian) yn darparu eu cyflenwad PPE cyntaf i weithwyr iechyd yng Ngheredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Chaerdydd.[52]
Trigolion yn Glanaman, Sir Gar, yn clapio yn y cymeradwyaeth wythnosol ar gyfer gofalwyr.
  • Adroddiad yn dweud gall prifysgolion Cymru gweld gostyngiad o bron i £100m.[53]

24 Ebrill

26 Ebrill

27 Ebrill

  • Prif Weinidog Cymru yn galw ar Lywodraeth DU i roi cymorth ariannol i'r diwydiant dur yng Nghymru.[58]
  • Heddluoedd De a Gogledd Cymru 'yn anobeithio' o ganlyniad i rai torri'r cyfyngiadau drwy deithio o Loegr i Gymru.[59]

28 Ebrill

29 Ebrill

30 Ebrill

  • Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd yn rhithiol i drafod materion yn ymwneud gydag effaith COVID-19 a'r bobl ifanc gyda'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg.[64][65]
  • Ysgrifennydd undeb Unite Cymru, Peter Hughes, yn rhybuddio bod Cymru “mewn perygl mawr” o golli ei ffatrïoedd a’r holl swyddi yn y sectorau cynhyrchu.[66]

Mai

1 Mai

3 Mai

  • Bydd y rhai sy'n trosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd a'r ysgolion Cymraeg yn cael ei blaenoriaethu.[70]

4 Mai

5 Mai

  • Mynegodd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, bod y cyngor "wedi colli hyd at £9m" o ganlyniad i'r pandemig.[71]

6 Mai

  • Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, yn dweud bod coronafeirws wedi costio'r cyngor £20m mewn costau ychwanegol rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn unig.[72]


7 Mai

8 Mai

  • Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ymestyn cyfnod cyfyngiadau am dair wythnos ychwanegol ond llacio rhai rheolau. [74]

9 Mai

  • Lesley Griffiths, Gweinidog Amaeth Cymru, yn cyhoeddi cymorth i'r ffermwyr llaeth sydd wedi dioddef fwyaf.[75]

10 Mai

  • Gwledydd datganoledig yn gadarn bod cyngor 'Aros Gartref' dim wedi newid[76], gyda nifer yn dweud bod cyngor newydd Johnson ar gyfer Lloegr yn "ddryslyd".[77]
Arwydd ar y A55 bwys Y Fferi Isaf ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, 2 Mehefin 2020.

11 Mai

  • Prif Weinidog Cymru'n dweud yn y briff dyddiol mae 'cyfraith Cymru sydd mewn grym', gan uwch-oleuo'r tensiwn gwleidyddol[78]
  • Pedwar Prif Gwnstabl Cymru'n dweud bod llif traffig o Loegr i Gymru cynyddu o ganlyniad i'r cyhoeddiad Boris Johnson ar 10 Mai. [79]

12 Mai

  • Arolygiaeth Gofal Cymru'n dweud bod yna cynyddiad o 98% yn y niferoedd o farwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru i gymharu â blwyddyn ddiwethaf.[80]

13 Mai

  • Vaughan Gething yn dweud bydd yn cynyddu'r cynllun profi i 20,000 a bod 5,000 gallu cael ei brofi ar hyn o bryd.[81]

15 Mai

Arwydd yng Nghenarth, yn dweud bod rheoliadau COVID Cymreig mewn grym. Rhoddwyd nifer o arwyddion i fyny ar draws Cymru gan Lywodraeth Cymru a Lleol oedd yn rhybuddio pobl Lloegr oedd yn dod i Gymru yn ystod y Cyfnod clo am yr gwahaniaeth mewn rheoliadau.
  • Mark Drakeford yn cyhoeddi cynllun goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau coronafeirws. Nid oes amserlen benodol.[82]

16 Mai

  • Vaughan Gething yn dweud bydd profi i bawb mewn cartrefi gofal ar ol iddo dderbyn cyngor gwyddonol newydd.[83]

17 Mai

  • Syr Keir Starmer, arweinydd Plaid Llafur, yn dweud ei fod yn destun "siom" bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau gwahanol.[84]

18 Mai

19 Mai

  • Ffigyrau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau wedi bron i ddyblu.[86]

Mehefin

5 Mehefin

  • Gwagiwyd Ysbyty Calon y Ddraig a symudwyd y cleifion a staff i ysbytai eraill. 34 claf oedd yr uchaf oedd yn cael ei thrin. Mi fydd y safle yn aros fel y mai hyd bellach mae yna beryg o ail don.[87]

18 Mehefin

  • Caewyd ffatri brosesu cyw iâr 2 Sisters ar Ynys Môn yn dilyn 75 achos o goronafirws.[88]

20 Mehefin

  • Ail agorwyd siopau nad yw'n hanfodol gyda mesurau diogelwch ychwanegol yng Nghymru.[89]

29 Mehefin

  • Cyhoeddwyd y byddai dau gartref yn gallu dod at ei gilydd i ffurfio cartref estynedig o 6 Gorffennaf ymlaen.[90]

30 Mehefin

  • Cytunodd Pwyllgor Busnes Senedd Cymru i symud at fodel cymysg ar gyfer cyfarfodydd llawn lle gall aelodau ymuno yn rhithiol neu gall 20 ymuno yn y Siambr.[91]

Gorffennaf

3 Gorffennaf

  • Cadarnhau bydd diwedd ar y cyfyngiadau teithio 5 milltir yng Nghymru o 6 Gorffennaf.[92]

Ystadegau

Mae ystadegau am achosion a marwolaethau yng Nghymru yn cael eu casglu gan y byrddau iechyd lleol a'i cyhoeddi yn ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn casglu gwybodaeth am farwolaethau sy'n cael ei cyhoeddi ar wahan.

Gweler hefyd

Pandemig COVID-19

Cyfeiriadau

  1. "Public Health Wales Rapid COVID-19 Surveillance See Tab: Summary". public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!. 20 Ebrill 2020. Cyrchwyd 7 Mai 2020.
  2. "Cumulative deaths by Health Board of Residence See Tab: Deaths)". public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!. Cyrchwyd 19 Mai 2020.
  3. www.bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  4. bangor.ac.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  5. 5.0 5.1 "Statement on the second meeting of the International Health Regulations (2005) Emergency Committee regarding the outbreak of novel coronavirus (2019-nCoV)". World Health Organization. 30 Ionawr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2020. Cyrchwyd 30 Ionawr 2020.
  6. "WHO Director-General's opening remarks at the media briefing on COVID-19 – 11 Mawrth 2020". World Health Organization. 11 Mawrth 2020. Cyrchwyd 11 Mawrth 2020.
  7. "Llywodraeth Cymru yn neilltuo £1.1bn i gefnogi busnesau". Golwg360. 2020-03-30. Cyrchwyd 2020-04-06.
  8. "Westminster tells vital PPE supply firms not to deal with Scotland". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-14.
  9. "UK Government 'telling companies not to send PPE to Wales and Scotland'". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-04-14. Cyrchwyd 2020-04-14.
  10. "COVID-19: Wales TUC and BMA Cymru Joint Statement on PPE in Health and Social Care". www.tuc.org.uk (yn Saesneg). 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-14.
  11. "Cymru 'methu cynyddu' nifer y profion". BBC Cymru Fyw. 2020-03-28. Cyrchwyd 2020-04-06.
  12. [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/coronavirus-victim-llandudno-thought-first-17681369 www.dailypost.co.uk Daily Post; 'Coronavirus victim from North Wales thought to be first UK national to contract killer disease'; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  13. bangor.ac.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  14. www.bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  15. [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/51463717 Dr Frank Atherton, prif swyddog meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn cadarnhau'r achos cyntaf o coronafeirws yn y wlad.
  16. 'Achos newydd o’r Coronafirws yng Nghymru'; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  17. www.bbc.co.uk; 'Coronavirus: Supermarkets won't run out of food, vows Matt Hancock'; adalwyd 25 Mawrth 2020.
  18. "Coronafeirws: Gwasanaeth symptomau newydd". BBC Cymru Fyw. 2020-03-07. Cyrchwyd 2020-04-06.
  19. "Chwe Gwlad: Gohirio gêm Cymru a'r Alban". BBC Cymru Fyw. 2020-03-13. Cyrchwyd 2020-04-06.
  20. "Coronafeirws: Y claf cyntaf o Gymru wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2020-03-16. Cyrchwyd 2020-04-06.
  21. nation.cymru; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  22. [https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/51945358 www.bbc.co.uk; Cymru Fyw; adalwyd 25 mawrth 2020.
  23. "Cau meysydd carafannau a chyrchfannau twristaidd". BBC Cymru Fyw. 2020-03-23. Cyrchwyd 2020-04-06.
  24. Gwefan bbc.co.uk; adalwyd 28 Mawrth 2020.
  25. "Cymru 'methu cynyddu' nifer y profion". BBC Cymru Fyw. 2020-03-28. Cyrchwyd 2020-04-06.
  26. "Llywodraeth Cymru yn neilltuo £1.1bn i gefnogi busnesau". Golwg360. 2020-03-30. Cyrchwyd 2020-04-06.
  27. "Y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal y sesiwn seneddol 'rithwir' gyntaf yn y DU". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-06.
  28. "Cyfraith newydd i ddiogelu gweithwyr yn dod i rym". BBC Cymru Fyw. 2020-04-07. Cyrchwyd 2020-04-12.
  29. "Mesurau coronafeirws i barhau dros y Pasg a thu hwnt, meddai Llywodraeth Cymru". Golwg360. 2020-04-08. Cyrchwyd 2020-04-12.
  30. "Ffermwyr godro angen cymorth ar frys – Undeb Amaethwyr Cymru". Golwg360. 2020-04-08. Cyrchwyd 2020-04-20.
  31. "Haint yn gorfodi ffermwyr i gael gwared â'u llaeth". BBC Cymru Fyw. 2020-04-07. Cyrchwyd 2020-04-20.
  32. Jones, Catrin Haf (2020-04-09). "'Gwrthod offer PPE' i gartrefi gofal o Gymru". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2020-04-12.
  33. CVUHB, Cardiff & Vale University Health Board- (2020-04-08). "NHS Wales | Ysbyty Calon y Ddraig, The Dragon's Heart Hospital". www.wales.nhs.uk. Cyrchwyd 2020-04-20.
  34. "Trefn profi Covid-19 'yn siambolaidd'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-14. Cyrchwyd 2020-04-20.
  35. "Cau canolfan brofi coronafeirws yn destun pryder i wleidyddion". Golwg360. 2020-04-14. Cyrchwyd 2020-04-20.
  36. "Westminster tells vital PPE supply firms not to deal with Scotland". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-14.
  37. "UK Government 'telling companies not to send PPE to Wales and Scotland'". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-04-14. Cyrchwyd 2020-04-14.
  38. "Covid-19: Ffigyrau gwahanol am nifer y marwolaethau". BBC Cymru Fyw. 2020-04-14. Cyrchwyd 2020-04-14.
  39. "Lle i fesurau coronafeirws gwahanol 'os oes angen'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-17. Cyrchwyd 2020-04-17.
  40. Jones, Catrin Haf (2020-04-17). "Galw am gyflog cyfartal i weithwyr gofal". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2020-04-17.
  41. "Half of nursing staff under pressure to work without PPE | News | Royal College of Nursing". The Royal College of Nursing (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-20.
  42. "Prinder PPE yn achosi 'gofid anferth' i nyrsys". BBC Cymru Fyw. 2020-04-18. Cyrchwyd 2020-04-20.
  43. ""Sgandal" gollwng targedau ar gyfer cynnal profion coronafeirws". Golwg360. 2020-04-20. Cyrchwyd 2020-04-20.
  44. "Coronafeirws: y sefyllfa profion yng Nghymru'n "annerbyniol"". Golwg360. 2020-04-19. Cyrchwyd 2020-04-20.
  45. "System brofi Cymru ddim wedi bod yn 'ddigon da'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-19. Cyrchwyd 2020-04-20.
  46. "Llywodraeth Cymru yn rhyddhau cefnogaeth fusnes ychwanegol o £100M wrth i'r Gronfa Cadernid Economaidd dderbyn nifer digynsail o geisiadau". LLYW.CYMRU. Cyrchwyd 2020-04-21.
  47. "Agor Ysbyty Calon Y Ddraig yn Stadiwm y Principality". Golwg360. 2020-04-20. Cyrchwyd 2020-04-20.
  48. "Llywodraethau wedi 'esgeuluso'u dyletswyddau'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-21. Cyrchwyd 2020-04-21.
  49. "Dominic Raab yn ymosod ar Lywodraeth Cymru". Golwg360. 2020-04-22. Cyrchwyd 2020-04-23.
  50. "Galw am wneud y defnydd o dai haf yn anghyfreithlon". BBC Cymru Fyw. 2020-04-22. Cyrchwyd 2020-04-23.
  51. Hughes, Eilir (2020-04-22). "@WelshGovernmentpic.twitter.com/knjDLHkxFl". Trydar @hughes_eilir. Cyrchwyd 2020-04-23.
  52. "Tarian Cymru'n darparu eu cyflenwad PPE cyntaf". Golwg360. 2020-04-23. Cyrchwyd 2020-04-25.
  53. "Rhybudd am ostyngiad £100m mewn incwm prifysgolion". BBC Cymru Fyw. 2020-04-23. Cyrchwyd 2020-04-25.
  54. "Cyhoeddi cynllun i arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws". Golwg360. 2020-04-24. Cyrchwyd 2020-04-25.
  55. "'Traffic light' system to lift lockdown in Wales". BBC News (yn Saesneg). 2020-04-24. Cyrchwyd 2020-04-25.
  56. "'Urgent explanation needed' over 84 newly-reported coronavirus deaths in the north of Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-04-24. Cyrchwyd 2020-04-25.
  57. "'Rhaid i bobl wybod bod y cofnod yn ddibynadwy'". BBC Cymru Fyw. 2020-04-26. Cyrchwyd 2020-04-28.
  58. "Galw ar Lywodraeth Prydain i achub y diwydiant dur". Golwg360. 2020-04-27. Cyrchwyd 2020-04-28.
  59. "Heddlu'n 'anobeithio' wrth weld ymwelwyr yn Eryri". BBC Cymru Fyw. 2020-04-27. Cyrchwyd 2020-04-28.
  60. "Cymru'n paratoi i dderbyn cyfarpar diogelu o dramor". Golwg360. 2020-04-28. Cyrchwyd 2020-04-28.
  61. Lewis, Bethan (2020-04-28). "Ysgolion i ailagor 'yn raddol' pan ddaw'r amser". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2020-04-28.
  62. "Cymru ddim am ehangu profion mewn cartrefi gofal". BBC Cymru Fyw. 2020-04-29. Cyrchwyd 2020-05-04.
  63. "Further expansion of access to coronavirus testing helps protect the most vulnerable". GOV.UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-04.
  64. "Cymorth iechyd meddwl, treulio gormod o amser o flaen sgrin, a pwysau gwaith ysgol - Senedd Ieuenctid Cymru yn holi'r Prif Weinidog mewn cyfarfod Coronafeirws arbennig". Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-05-04.
  65. "Senedd Ieuenctid Cymru- Cyfarfod rithiol".
  66. "Ffatrïoedd Cymru "mewn perygl mawr" o ddiflannu i ebargofiant". Golwg360. 2020-05-01. Cyrchwyd 2020-05-05.
  67. "Taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal Cymru". BBC Cymru Fyw. 2020-05-01. Cyrchwyd 2020-05-05.
  68. "Covid-19 death rate almost twice as high in deprived areas of Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-05-01. Cyrchwyd 2020-05-05.
  69. "Deaths involving COVID-19 by local area and socioeconomic deprivation - Office for National Statistics". www.ons.gov.uk. Cyrchwyd 2020-05-05.
  70. "Blaenoriaeth i'r Gymraeg wrth agor ysgolion eto?". Golwg360. 2020-05-03. Cyrchwyd 2020-05-05.
  71. "Gwynedd 'wedi colli hyd at £9m' yn yr argyfwng". BBC Cymru Fyw. 2020-05-05. Cyrchwyd 2020-05-05.
  72. "£20m o gostau ychwanegol i Gyngor Caerdydd". BBC Cymru Fyw. 2020-05-06. Cyrchwyd 2020-05-09.
  73. "Cadarnhad na fydd ysgolion yn ailagor ar 1 Mehefin". BBC Cymru Fyw. 2020-05-07. Cyrchwyd 2020-05-09.
  74. "Ymestyn y cyfyngiadau ond llacio rhai rheolau". BBC Cymru Fyw. 2020-05-08. Cyrchwyd 2020-05-09.
  75. "Cymorth i'r ffermwyr llaeth sydd wedi'u taro waethaf". BBC Cymru Fyw. 2020-05-09. Cyrchwyd 2020-05-09.
  76. "Gething yn gwrthod slogan newydd Llywodraeth y DU". BBC Cymru Fyw. 2020-05-10. Cyrchwyd 2020-05-14.
  77. "'Cyngor Cymru ddim yn newid' wedi araith Johnson". BBC Cymru Fyw. 2020-05-10. Cyrchwyd 2020-05-14.
  78. ""Yng Nghymru, cyfraith Cymru sydd mewn grym"". Golwg360. 2020-05-11. Cyrchwyd 2020-05-14.
  79. "Coronafeirws: Galw am eglurder gan Johnson". Golwg360. 2020-05-11. Cyrchwyd 2020-05-14.
  80. "Senedd roundup: New report reveals 'startling increase' in care home deaths". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-05-12. Cyrchwyd 2020-05-14.
  81. "Cynllun profi 'yn hanfodol' cyn llacio cyfyngiadau". BBC Cymru Fyw. 2020-05-13. Cyrchwyd 2020-05-14.
  82. "System goleuadau traffig i lacio cyfyngiadau Cymru". BBC Cymru Fyw. 2020-05-15. Cyrchwyd 2020-07-03.
  83. "Profion coronafeirws i bawb mewn cartrefi gofal". Golwg360. 2020-05-16. Cyrchwyd 2020-07-03.
  84. Coronafeirws: “Rhaid i bedair gwlad Prydain gydweithio” Golwg360. 2020-05-17. Cyrchwyd 2020-07-03.
  85. Neges heddwch yr Urdd: peidio anghofio’r gwersi sydd wedi’u dysgu gan Covid19 Golwg360. 2020-05-18. Cyrchwyd 2020-07-03.
  86. "Nifer sy'n ceisio am fudd-dal wedi bron dyblu". BBC Cymru Fyw. 2020-05-19. Cyrchwyd 2020-07-03.
  87. "Un ysbyty maes yn unig sydd wedi trin cleifion". BBC Cymru Fyw. 2020-06-18. Cyrchwyd 2020-07-03.
  88. "75 o achosion o'r coronafeirws yn ffatri ieir Llangefni". Golwg360. 2020-06-20. Cyrchwyd 2020-07-03.
  89. "Siopau yn ailagor ond fyddan nhw ddim yr un peth". BBC Cymru Fyw. 2020-06-22. Cyrchwyd 2020-07-03.
  90. "Hawl i ddwy aelwyd ffurfio 'un cartref estynedig'". BBC Cymru Fyw. 2020-06-29. Cyrchwyd 2020-07-03.
  91. "Symud i Fodel Senedd 'Hybrid'". Senedd Cymru. 2020-06-29. Cyrchwyd 2020-07-03.
  92. "Y cyfyngiadau ar deithio i ddod i ben ddydd Llun". BBC Cymru Fyw. 2020-07-03. Cyrchwyd 2020-07-03.