Mabinogi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sanddef (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
cywiriad
Llinell 1: Llinell 1:
Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r '''Mabinogi'''. Eu henw traddodiadol yw [[Pedair Cainc y Mabinogi]] (mae ''cainc'' yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").
Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r '''Mabinogi'''. Eu henw traddodiadol yw [[Pedair Cainc y Mabinogi]] (mae ''cainc'' yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").


Oherwydd i'r [[Arglwyddes Charlotte Guest]] gamddeall y gair ''mabynogion'' (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl [[Pwyll]] mewn un o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair [[Mabinogion]] ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd [[y Celtiaid]].
Oherwydd i'r [[Arglwyddes Charlotte Guest]] gamddeall y gair ''mabynogion'' (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl [[Pwyll]] mewn dwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair [[Mabinogion]] ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd [[y Celtiaid]].


Cedwir y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1300]] a [[1325]], a [[Llyfr Coch Hergest]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1375]] a [[1425]].
Cedwir y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef [[Llyfr Gwyn Rhydderch]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1300]] a [[1325]], a [[Llyfr Coch Hergest]] a ysgrifenwyd rywbryd rhwng [[1375]] a [[1425]].

Fersiwn yn ôl 16:18, 5 Chwefror 2007

Casgliad o bedair stori yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi (mae cainc yn golygu "cangen", sef "chwedl o fewn chwedl").

Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair mabynogion (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl Pwyll mewn dwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair Mabinogion ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio o fyd y Celtiaid.

Cedwir y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesoel, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1300 a 1325, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifenwyd rywbryd rhwng 1375 a 1425.

Y Pedair Cainc

Pedair Cainc y Mabinogi yw:

Y Chwedlau Brodorol

Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Aglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasglaid. Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw Y Chwedlau Brodorol gan ysgolheigion. Eu teitlau yw:

Gan fod draddodiadau cynnar am y brenin Arthur i'w cael yn Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy, mae'r storïau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion Celtaidd. Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus.

Y Tair Rhamant

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd sydd i'w cael yn rhannol yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Y Tair Rhamant yw:

Hanes Taliesin

Yn ogystal â'r chwedlau hyn mae'r Arglwyddes Guest yn cynnwys wythfed chwedl sydd ddim yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch (nid yw'n arfer ei chynnwys mewn argraffiadau diweddarach chwaith), sef

Ffilm

Gwnaed y ffilm cartŵn Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.

Gweler hefyd

Lleu Llaw Gyffes