Panda Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: koi, mhr, mrj, udm yn newid: mr, simple |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Үлкен панда |
||
Llinell 63: | Llinell 63: | ||
[[jbo:cionmau la barda]] |
[[jbo:cionmau la barda]] |
||
[[ka:ბამბუკის დათვი]] |
[[ka:ბამბუკის დათვი]] |
||
[[kk:Үлкен панда]] |
|||
[[ko:대왕판다]] |
[[ko:대왕판다]] |
||
[[koi:Ыджыт панда]] |
[[koi:Ыджыт панда]] |
Fersiwn yn ôl 14:05, 24 Awst 2011
Panda Mawr | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Carnivora |
Teulu: | Ursidae |
Genws: | Ailuropoda |
Rhywogaeth: | A. melanoleuca |
Enw deuenwol | |
Ailuropoda melanoleuca David, 1869 |
Mamal, herbiforaidd yn bennaf, sydd wedi arbenigo i fwyta bambŵ ac sydd i'w cael ym mynyddoedd Asia yw'r Panda Mawr neu'r Panda Anferth (Lladin: Ailuropoda melanoleuca. Caeir dau is-rywogaeth, Ailuropoda melanoleuca melanoleuca ac Ailuropoda melanoleuca qinlingensis.
Daw'r enw "panda" o'r Nepaleg poonya, "Bwytawr bambŵ". Yr enw Tsineëg yw 大熊猫 (da xiong mao). Fe'i ceir yn y coedwigoedd bambŵ ar lethrau uchel mynyddoedd rhan orllewinol Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn arbennig yn nhalaethiau Sichuan a Yunnan. Maent yn anifeiliaid o faint sylweddol, yn amrywio o 80 kg hyd 100 kg.
Er eu bod yn perthyn i'r Carnovora, maent yn fwytawyr planhigion, yn bennaf bambŵ. Nid ydynt yn medru treulio'r bambŵ yn effeithiol iawn, felly rhaid iddynt fwyta rhwng 9 a 14 kg y dydd, sy'n golygu eu bod yn treulio 10 - 12 awr y dydd yn bwyta.
Daeth y Panda Mawr yn symbol o rywogaethau mewn perygl. Y prif berygl i'r rhywogaeth yw colli'r fforestydd bambŵ y maent yn dibynnu arnynt.