Sioe Frenhinol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
yr agoriad |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Sioe Frenhinol Cymru''' yw [[sioe amaethyddol]] fwyaf [[Ewrop]]. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref [[Llanelwedd]], ger [[Llanfair-ym-Muallt]], [[Powys]]. |
'''Sioe Frenhinol Cymru''' neu ar lafar: '''Sioe Llanelwedd''' yw [[sioe amaethyddol]] fwyaf [[Ewrop]]. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref [[Llanelwedd]], ger [[Llanfair-ym-Muallt]], [[Powys]]. |
||
Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn [[Aberystwyth]] yn 1904, ac oherwydd ei lwyddiant, prynnwyd tir yn Llanelwedd ar ei gyfer yn 1963. |
|||
Ni chynhaliwyd sioe yn 1915-18, yn 1940-45 nac yn 2020 (sioe dros y we). |
|||
⚫ | |||
== Rhaglen a digwyddiadau == |
== Rhaglen a digwyddiadau == |
||
Llinell 19: | Llinell 25: | ||
Y Sioe Frenhinol yw un o'r prif ddigwyddiadau cymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae [[Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc|Ffederasiwn y Ffermwyr Ifainc]] yn rhedeg cyfres o gystadlaethau rhanbarthol trwy'r flwyddyn gyda'r enillwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuthau cenedlaethol ar faes y Sioe. |
Y Sioe Frenhinol yw un o'r prif ddigwyddiadau cymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae [[Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc|Ffederasiwn y Ffermwyr Ifainc]] yn rhedeg cyfres o gystadlaethau rhanbarthol trwy'r flwyddyn gyda'r enillwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuthau cenedlaethol ar faes y Sioe. |
||
⚫ | |||
==Dolenni allanol== |
==Dolenni allanol== |
Fersiwn yn ôl 06:58, 24 Gorffennaf 2020
Sioe Frenhinol Cymru neu ar lafar: Sioe Llanelwedd yw sioe amaethyddol fwyaf Ewrop. Fe'i trefnir gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ac fe'i cynhelir ym mis Gorffennaf ar faes ym mhentref Llanelwedd, ger Llanfair-ym-Muallt, Powys.
Cynhaliwyd y sioe gyntaf yn Aberystwyth yn 1904, ac oherwydd ei lwyddiant, prynnwyd tir yn Llanelwedd ar ei gyfer yn 1963.
Ni chynhaliwyd sioe yn 1915-18, yn 1940-45 nac yn 2020 (sioe dros y we).
Darlledir yn fyw o'r maes gan S4C bob blwyddyn.
Rhaglen a digwyddiadau
Mae'r sioe yn para am bedwar diwrnod ac yn denu mwy na 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, o Gymru a'r tu hwnt, sy'n ei gwneud yn un o atyniadau twristaidd mwyaf y wlad.
Mae'r digwyddiadau yn cynnwys:
- Barnu'r goreuon yn nosbarthiadau gwartheg, defaid, ceffylau, geifr a sawl math arall o anifail dof.
- Treialon cŵn defaid
- Cystadleuthau cneifio defaid
- Cystadleuthau marchogaeth
- Arddangosfeydd gyrru
- Hebogaeth
- Gemau a chwaraeon o bob math
- Sioe Crefftau
- Cerddoriaeth fyw
Ceir nifer o stondinau busnes ar y maes, yn arbennig busnesau gyda chysylltiad ag amaethyddiaeth yng Nghymru. Yn ogystal mae'r sioe yn rhoi cyfle i ffermwyr gwrdd a thrafod ac efallai i ennill busnes newydd.
Y Sioe Frenhinol yw un o'r prif ddigwyddiadau cymdeithasol i ffermwyr Cymru. Mae Ffederasiwn y Ffermwyr Ifainc yn rhedeg cyfres o gystadlaethau rhanbarthol trwy'r flwyddyn gyda'r enillwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuthau cenedlaethol ar faes y Sioe.