Neo-wladychiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
#wici732 Tagiau: Golygiad cod 2017 |
llywodraeth ac addysg Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r [[Y Gymuned Ewropeaidd|Farchnad Gyffredin]]. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng [[Unol Daleithiau America]] a chenhedloedd [[America Ladin]]. Defnyddiwyd y term gan [[Marcsiaeth|Farcswyr]] i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad [[Lenin]] o imperialaeth yn "[[imperialaeth#Damcaniaethau Comiwnyddol ar Imperialaeth|gam uchaf cyfalafiaeth]]") a gynhelir gan [[cwmni trawswladol|gwmnïau trawswladol]] a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol. |
Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r [[Y Gymuned Ewropeaidd|Farchnad Gyffredin]]. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng [[Unol Daleithiau America]] a chenhedloedd [[America Ladin]]. Defnyddiwyd y term gan [[Marcsiaeth|Farcswyr]] i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad [[Lenin]] o imperialaeth yn "[[imperialaeth#Damcaniaethau Comiwnyddol ar Imperialaeth|gam uchaf cyfalafiaeth]]") a gynhelir gan [[cwmni trawswladol|gwmnïau trawswladol]] a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol. |
||
== Llywodraeth ac addysg == |
|||
Yn ogystal â dylanwadau allanol, megis y gyfundrefn economaidd fyd-eang a bygythiadau milwrol, mae ysgolheigion yn dadlau bod neo-wladychiaeth yn dibynnu ar strwythurau mewnol y byd datblygol a gynhelir gan weithredwyr lleol. Gallai'r strwythurau hyn fod yn etifeddiaeth y cyfnod trefedigaethol, er enghraifft olion y gyfundrefn addysg [[Thomas Babington Macaulay, Barwn 1af Macaulay|Macaulayaidd]] yn [[India]], neu yn greadigaethau diweddar sydd yn efelychu hen bolisïau'r awdurdodau trefedigaethol. Yn ôl yr ysgolhaig Syed Hassan, croesewir neo-wladychiaeth gan lywodraethau'r byd datblygol i gyfiawnhau polisïau sydd yn gwthio diwylliannau brodorol i'r cyrion ac yn rhoi normau a dulliau'r byd datblygedig ar waith.<ref name=Hassan1119>Syed Hassan, "Neocolonialism" yn ''Encyclopedia of the Developing World'', golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), t. 1119.</ref> |
|||
Yn yr oes drefedigaethol, bu'r elît cynhenid yn manteisio ar gydymffurfio â'r drefn Ewropeaidd ac efelychu cymdeithas a diwylliant y gwladychwyr. Trodd nifer o frodorion eu cefnau ar eu traddodiadau ac yn cofleidio'r fydolwg Ewro-ganolog er mwyn ymuno â rhengoedd uchaf cymdeithas. Yn y byd cyfoes, mae meibion a merched y dosbarthiadau uchaf mewn gwledydd datblygol o hyd yn derbyn eu haddysg a'u hyfforddiant yn y Gorllewin, ac yn llyncu felly normau cymdeithasol a diwylliannol estron. Wrth ddychwelyd i'w mamwledydd i weithio yn y llywodraeth, y lluoedd arfog, a'r proffesiynau, maent yn parhau i lynu at fframweithiau cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd y byd datblygedig. Gellir cymharu amcanion yr elitau hyn i foderneiddio a Gorllewineiddio eu gwledydd â'r [[baich y dyn gwyn|hen genhadaeth imperialaidd]] i wareiddio'r bobloedd a orchfygwyd.<ref name=Hassan1119/> |
|||
== Gweler hefyd == |
|||
* [[Gwrthdrefedigaethrwydd]] |
|||
* [[Imperialaeth ddiwylliannol]] |
|||
* [[Mudiad gwrth-globaleiddio]] |
|||
== Ffynonellau == |
|||
=== Cyfeiriadau === |
|||
{{cyfeiriadau|2}} |
|||
=== Llyfryddiaeth === |
|||
* Syed Hassan, "Neocolonialism" yn ''Encyclopedia of the Developing World'', golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 1118–20. |
|||
[[Categori:Hanes cysylltiadau rhyngwladol]] |
[[Categori:Hanes cysylltiadau rhyngwladol]] |
Fersiwn yn ôl 04:03, 20 Gorffennaf 2020
Enw ar arferion a ddefnyddir gan wledydd datblygedig yn yr oes ôl-drefedigaethol i ddylanwadu ar wledydd datblygol yw neo-wladychiaeth. Term beirniadol ydyw sydd yn disgrifio perthynas anghyfartal o ganlyniad i dra-arglwyddiaeth economaidd, cymdeithasol, diwylliannol, milwrol, a gwleidyddol sydd gan y byd datblygedig, yn enwedig y cyn-bwerau imperialaidd, i ymelwa ar y byd datblygol, fel arfer y cyn-drefedigaethau, er gwaethaf yr hawl sydd gan bob wladwriaeth annibynnol i sofraniaeth ac hunanbenderfyniad. Mae'r enw yn awgrymu ffurf gyfoes ar wladychiaeth, sydd yn wahanol i'r hen drefn o ymledu trefedigaethau drwy rym arfog ac ymerodraethau ffurfiol. Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, trafodir neo-wladychiaeth yn bennaf gan ysgolheigion Marcsaidd ac ôl-drefedigaethol.
Bathwyd y term neo-wladychiaeth ar ddechrau cyfnod datrefedigaethu'r ymerodraethau Ewropeaidd yng nghanol yr 20g, i gyfeirio at ddibyniaeth barhaol y cyn-drefedigaethau newydd annibynnol ar y gwledydd Ewropeaidd hynny. Defnyddiwyd y term yn gyntaf yn sgil cynhadledd gan benaethiaid llywodraethau Ewrop ym 1957, a chytunasant i gynnwys eu tiriogaethau tramor o fewn trefniadau'r Farchnad Gyffredin. Cyn bo hir, estynnwyd ei ddiffiniad i grybwyll unrhyw berthynas ymelwol rhwng gwlad ddatblygedig a gwlad ddatblygol, er enghraifft rhwng Unol Daleithiau America a chenhedloedd America Ladin. Defnyddiwyd y term gan Farcswyr i ddisgrifio'r drefn gyfalafol fyd-eang gyfoes (cymharer diffiniad Lenin o imperialaeth yn "gam uchaf cyfalafiaeth") a gynhelir gan gwmnïau trawswladol a sefydliadau rhyngwladol yn ogystal â llywodraethau'r byd datblygedig er mwyn ymelwa ar draul y byd datblygol.
Llywodraeth ac addysg
Yn ogystal â dylanwadau allanol, megis y gyfundrefn economaidd fyd-eang a bygythiadau milwrol, mae ysgolheigion yn dadlau bod neo-wladychiaeth yn dibynnu ar strwythurau mewnol y byd datblygol a gynhelir gan weithredwyr lleol. Gallai'r strwythurau hyn fod yn etifeddiaeth y cyfnod trefedigaethol, er enghraifft olion y gyfundrefn addysg Macaulayaidd yn India, neu yn greadigaethau diweddar sydd yn efelychu hen bolisïau'r awdurdodau trefedigaethol. Yn ôl yr ysgolhaig Syed Hassan, croesewir neo-wladychiaeth gan lywodraethau'r byd datblygol i gyfiawnhau polisïau sydd yn gwthio diwylliannau brodorol i'r cyrion ac yn rhoi normau a dulliau'r byd datblygedig ar waith.[1]
Yn yr oes drefedigaethol, bu'r elît cynhenid yn manteisio ar gydymffurfio â'r drefn Ewropeaidd ac efelychu cymdeithas a diwylliant y gwladychwyr. Trodd nifer o frodorion eu cefnau ar eu traddodiadau ac yn cofleidio'r fydolwg Ewro-ganolog er mwyn ymuno â rhengoedd uchaf cymdeithas. Yn y byd cyfoes, mae meibion a merched y dosbarthiadau uchaf mewn gwledydd datblygol o hyd yn derbyn eu haddysg a'u hyfforddiant yn y Gorllewin, ac yn llyncu felly normau cymdeithasol a diwylliannol estron. Wrth ddychwelyd i'w mamwledydd i weithio yn y llywodraeth, y lluoedd arfog, a'r proffesiynau, maent yn parhau i lynu at fframweithiau cymdeithasol-wleidyddol ac economaidd y byd datblygedig. Gellir cymharu amcanion yr elitau hyn i foderneiddio a Gorllewineiddio eu gwledydd â'r hen genhadaeth imperialaidd i wareiddio'r bobloedd a orchfygwyd.[1]
Gweler hefyd
Ffynonellau
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
- Syed Hassan, "Neocolonialism" yn Encyclopedia of the Developing World, golygwyd gan Thomas M. Leonard (Efrog Newydd: Routledge, 2006), tt. 1118–20.