Bwa (pensaernïaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: oc:Arc (arquitectura) |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn ychwanegu: kk:Доға |
||
Llinell 45: | Llinell 45: | ||
[[it:Arco (architettura)]] |
[[it:Arco (architettura)]] |
||
[[ja:アーチ]] |
[[ja:アーチ]] |
||
[[kk:Доға]] |
|||
[[ko:아치]] |
[[ko:아치]] |
||
[[la:Arcus (architectura)]] |
[[la:Arcus (architectura)]] |
Fersiwn yn ôl 06:31, 19 Awst 2011
Bwa mewn pensaernïaeth yw'r term a ddefnyddir ar gyfer adeiladwaith sydd yn gallu cymeryd pwysau sylweddol uwch ei ben gyda lle gwag oddi tanodd.
Ymddangosodd y bwa am y tro cyntaf yn yr ail fileniwn CC, ym Mesopotamia wedi eu hadeiladu o frics. Adeiladwyd hwy hefyd gan y Babiloniaid, mae Porth Ishtar yn enghraifft enwog. Lledaenodd y wybodaeth i Ewrop a chafodd y bwa ei ddefnyddio gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid.
Roedd y bwa Rhufeinig yn hanner crwn gyda nifer anghydrif o friciau neu feini. Trwy hyn gellir cael maen clo yng nghanol y bwa. Dilynwyd hyn gan ddatblygiad y bwa ar ffurf pig, a ddefnyddid mewn pensaernïaeth Islamaidd ac mewn pensaernïaeth Gothig yn Ewrop. Mae'r math yma o fwa yn gryfach na bwa ar hanner cylch. Y ffurf gryfaf ar fwa yw'r bwa parabolig; defnyddiwyd y math yma ar fwa gan y pensaer Antoni Gaudí o Gatalonia.