Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Deb (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
Sefydlwyd '''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''', sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn [[Llangollen]] ar [[2 Medi]], [[1906]]. Nod y gymdeithas oedd i gasglu [[cerddoriaeth]] [[canu gwerin|werin]] a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.' |
Sefydlwyd '''Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru''', sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn [[Llangollen]] ar [[2 Medi]], [[1906]]. Nod y gymdeithas oedd i gasglu [[cerddoriaeth]] [[canu gwerin|werin]] a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.' |
||
Mae ''Canu Gwerin'', sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob [[Awst]], a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar |
Mae ''Canu Gwerin'', sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob [[Awst]], a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar ei gwefan ac ambell erthygl Saesneg yn ei chylchgrawn.. |
||
==Sefydlu== |
==Sefydlu== |
Fersiwn yn ôl 10:36, 17 Gorffennaf 2020
Sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, sy'n elusen gofrestredig, (rhif 259772) mewn cyfarfod yn Llangollen ar 2 Medi, 1906. Nod y gymdeithas oedd i gasglu cerddoriaeth werin a hybu canu traddodiadol y wlad. Ar eu gwefan, dywedir i'r gymdeithas gael ei sefydlu i 'gasglu, diogelu, dehongli a chyflwyno caneuon gwerin Cymru, cyhoeddi enghreifftiau ohonynt a hybu ymchwil i’w cefndir llenyddol a cherddorol, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn canu gwerin a llên gwerin yn gyffredinol.'
Mae Canu Gwerin, sef cylchgrawn y Gymdeithas, yn ymddangos bob Awst, a chynhelir cyfarfod blynyddol o ddarlithiau, trafodaethau a chanu yn ogystal â darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddir cyfrolau o alawon a threfniannau hefyd yn achlysurol. Cymraeg yw iaith y Gymdeithas, ond ceir peth gwybodaeth yn Saesneg ar ei gwefan ac ambell erthygl Saesneg yn ei chylchgrawn..
Sefydlu
Un o brif sylfaenwyr y Gymdeithas oedd Dr J. Lloyd Williams, darlithydd mewn botaneg ym Mhrifysgol Bangor oedd hefyd yn gyfarwyddwr cerdd y coleg. Sefydlodd barti canu o blith ei fyfyrwyr gan eu hanog i gofnodi hen ganeuon llafar gwlad yn ystod eu gwyliau[1]
O fewn hanner can mlynedd o'i sefydlu roedd y Gymdeithas wedi llwyddo i gasglu bron i 600 o ganeuon traddodiadol Cymraeg. Yn 1988 ailargraffwyd casgliad pwysig Maria Jane Williams a gyhoeddwyd yn gyntaf yn 1844.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwyn Jenkins (gol.). Llyfr y Ganrif. Y Lolfa. ISBN 0-86243-504-8.
Llyfryddiaeth
- Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru: Canrif Gron gan D. Roy Saer, a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas yn 2006 (ISBN 0 9532555 5 7).