Austin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.6.5) (robot yn ychwanegu: bi:Austin, Texas |
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: ku:Austin (Teksas) |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[ka:ოსტინი]] |
[[ka:ოსტინი]] |
||
[[ko:오스틴 (텍사스 주)]] |
[[ko:오스틴 (텍사스 주)]] |
||
[[ku:Austin ( |
[[ku:Austin (Teksas)]] |
||
[[kw:Austin, Teksas]] |
[[kw:Austin, Teksas]] |
||
[[la:Austinopolis]] |
[[la:Austinopolis]] |
Fersiwn yn ôl 20:38, 11 Awst 2011
Austin yw prifddinas y dalaith Americanaidd, Texas, Unol Daleithiau. Dyma yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Texas a'r unfed ar ddeg ddinas fwyaf yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn, Austin oedd y drydedd ddinas a ehangodd gyflymaf yn y wlad rhwng 2000 a 2006. Mae gan Austin boblogaeth o 743,074. Y ddinas yw canolbwynt diwylliannol ac economaidd yr ardal metropolitanaidd Austin–Round Rock gyda phoblogaeth o tua 1.6 miliwn o bobl.
Sefydlwyd yr ardal yn ystod y 1830au ar lannau'r Afon Colorado gan ymgartrefwyr gwyn, a alwodd y pentref yn Waterloo. Ym 1839, dewiswyd Waterloo fel prif ddinas Gweriniaeth Texas a oedd newydd gael ei hannibyniaeth. Ail-enwyd y ddinas yn Austin ar ôl Stephen F. Austin. Tyfodd y ddinas trwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a daeth yn ganolfan ar gyfer y llywodraeth ac addysg wrth i Gapitol Talaith Texas a Phrifysgol Texas gael eu sefydlu yno. Wedi cyfnod o ddiffyg twf ar ôl y Dirwasgiad Mawr parhaodd Austin ei datblygiad i fod yn ddinas a oedd yn ganolbwynt technoleg a busnes.