Terfysgoedd Lloegr, Awst 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: fa:ناآرامیهای انگلستان (۲۰۱۱) |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1+) (robot yn newid: fa:شورشهای انگلستان (۲۰۱۱) |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[es:Disturbios de Inglaterra de 2011]] |
[[es:Disturbios de Inglaterra de 2011]] |
||
[[et:2011. aasta Suurbritannia rahutused]] |
[[et:2011. aasta Suurbritannia rahutused]] |
||
[[fa: |
[[fa:شورشهای انگلستان (۲۰۱۱)]] |
||
[[fi:Englannin mellakat 2011]] |
[[fi:Englannin mellakat 2011]] |
||
[[fr:Émeutes de 2011 au Royaume-Uni]] |
[[fr:Émeutes de 2011 au Royaume-Uni]] |
Fersiwn yn ôl 07:16, 11 Awst 2011
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Terfysgoedd mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr yw terfysgoedd Lloegr, Awst 2011. Dechreuodd yn ardaloedd o Lundain, yn bennaf Tottenham, ar 6 Awst 2011 a sbardunwyd gan farwolaeth Mark Duggan, dyn 29 oed, ar 4 Awst wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu. Copiwyd yr anrhefn gan lafnau ifanc iawn, drennydd yn Wood Green, Enfield, Ponders End a Brixton. Roedd y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, Maer Llundain Boris Johnson, a'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar eu gwyliau ar y pryd. Roedd defnydd y glaslanciau o gyfryngau cyhoeddus megis y Blackberry a thrydar. Ymhlith y rhesymau dros y terfysgoedd yr oedd diweithdra, pris bwyd a thoriadau mewn grantiau myfyrwyr a chlybiau ieuenctid.
Erbyn yr 8fed o Awst roedd y terfysg wedi ymledu drwy sawl rhan o Lundain; cafwyd tân anferthol mewn storws garpedi yn Croydon a thanau ac "anarchiaeth" mewn ardaloedd eraill, er enghraifft Enfield a Ponders End, Walthamstow, Chingford Mount, Hackney a Peckham. Torrodd glaslanciau eu ffordd i mewn i siopau yn Birmingham, Manceinion, Lerpwl a Bryste a chafwyd terfysgoedd hefyd yn Leeds. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am ddod adre o'i wyliau er mwyn cynnal cyfarfod brys o Cobra.
Drenydd roedd terfysgwr Llundain yn gymharol dawel, gyda'r reiats yn datganoli i drefi megis Lerpwl ble ymosododd y terfysgwyr ar 4 injan dân. Cafwyd reiats hefyd yn West Brom, Salford, Wolverhampton, Nottingham, Birmingham, Rhydychen, Caergrawnt, Washington yn Tyne a Wear a Manceinion lle arestiwyd 47 o laslanciau am ddifrodi siopau, dwyn eiddo a herian yr heddlu.
Ymhlith penawdau papurau newydd y 10ed o Awst roedd penawdau fel: Anarchy Spreads (Telegraph) a Police Get Tough (Guardian) a oedd yn cyfeirio at yr alwad gan y cyhoedd a rhai aelodau seneddol i'r heddlu fod yn fwy llym.