Terfysgoedd Lloegr, Awst 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: es:Disturbios de Inglaterra de 2011 |
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1+) (robot yn newid: id:Kerusuhan Inggris 2011 |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
[[fr:Émeutes de 2011 au Royaume-Uni]] |
[[fr:Émeutes de 2011 au Royaume-Uni]] |
||
[[he:המהומות בממלכה המאוחדת (2011)]] |
[[he:המהומות בממלכה המאוחדת (2011)]] |
||
[[id:Kerusuhan |
[[id:Kerusuhan Inggris 2011]] |
||
[[is:Óeirðirnar í London 2011]] |
[[is:Óeirðirnar í London 2011]] |
||
[[it:Disordini di Londra del 2011]] |
[[it:Disordini di Londra del 2011]] |
Fersiwn yn ôl 00:03, 10 Awst 2011
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Terfysgoedd mewn nifer o ddinasoedd yn Lloegr yw terfysgoedd Lloegr, Awst 2011. Dechreuodd yn ardaloedd o Lundain, yn bennaf Tottenham, ar 6 Awst 2011 a sbardunwyd gan farwolaeth Mark Duggan, dyn 29 oed, ar 4 Awst wedi iddo gael ei saethu gan yr heddlu. Copiwyd yr anrhefn gan lafnau ifanc iawn, drennydd yn Wood Green, Enfield, Ponders End a Brixton. Roedd y Prif Weinidog David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, Maer Llundain Boris Johnson, a'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May ar eu gwyliau ar y pryd.
Erbyn yr 8fed o Awst roedd y terfysg wedi ymledu drwy sawl rhan o Lundain; cafwyd tân anferthol mewn storws garpedi yn Croydon a thanau ac "anarchiaeth" mewn ardaloedd eraill, er enghraifft Enfield a Ponders End, Walthamstow, Chingford Mount, Hackney a Peckham. Torrodd glaslanciau eu ffordd i mewn i siopau yn Birmingham, Lerpwl a Bryste a chafwyd terfysgoedd hefyd yn Leeds. Cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am ddod adre o'i wyliau er mwyn cynnal cyfarfod brys o Cobra.