Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
enw a refs
Llinell 30: Llinell 30:


=== Tlws y Cerddor ===
=== Tlws y Cerddor ===
[[Meirion Wynn Jones]] enillodd y tlws eleni.<ref>[http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_9550000/newsid_9555500/9555552.stm Gwefan y BBC]</ref>



=== Gwobr Goffa Daniel Owen ===
=== Gwobr Goffa Daniel Owen ===

Fersiwn yn ôl 22:27, 8 Awst 2011

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011
Delwedd:Logo Eisteddfod 2011.gif

-

Lleoliad Wrecsam
Cynhaliwyd 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011
Archdderwydd T. James Jones
Gwefan www.eisteddfod.org.uk
Coron yr Eisteddfod
Coron yr Eisteddfod

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.

Maes B

Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, fydd lleoliad Maes B eleni, gyda dau lwyfan yn cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth gan gynnwys: Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[1]

Prif gystadlaethau

Y Coroni

Enillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon. Daeth 36 ymgais i fewn ond ni ellid ystyried un ohonynt oherwydd ei fod wedi cynganeddu a doedd y dasg ddim yn caniatáu hyn. Roeddent i lunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Gwythiennau'. Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni Delysg ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas wedi rhoi'r un tri ar y brig, tri a oedd yn haeddu'r wobr, O'r Tir Du, Promethews a Fena Cafa.

Y Cadeirio

Enillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair.

Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.

Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.

Y Fedal Ryddiaith

Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Yn Nhrealaw, Cwm Rhondda, y magwyd Manon Rhys. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.

Tlws y Cerddor

Meirion Wynn Jones enillodd y tlws eleni.[2]

Gwobr Goffa Daniel Owen

Daniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Sgwennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oed y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anrhefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.

Cyngherddau

Y Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, Elin Fflur ac Al Lewis Band.

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Gweler hefyd