Benjamin Francis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 38: Llinell 38:


{{DEFAULTSORT:Francis, Benjamin}}
{{DEFAULTSORT:Francis, Benjamin}}

[[Categori:Gweinidogion Bedyddwyr Cymreig]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Emynwyr Cymraeg]]
[[Categori:Emynwyr Cymraeg]]

Fersiwn yn ôl 20:59, 5 Gorffennaf 2020

Benjamin Francis
Ganwyd1734 Edit this on Wikidata
Cenarth Edit this on Wikidata
Bu farw14 Rhagfyr 1799 Edit this on Wikidata
Horsley Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg y Bedyddwyr, Bryste Edit this on Wikidata
Galwedigaethemynydd, bardd, gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Benjamin Francis (173414 Rhagfyr 1799) yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ac yn emynydd amlwg yn y Gymraeg a'r Saesneg. [1]

Cefndir

Ganwyd Francis ym Mhencelli Fawr, Cenarth. Roedd yr ieuengaf o chwech o blant Enoch Francis (1689-1740), [2] Gweinidog y Bedyddwyr yng Nghastellnewydd Emlyn, bardd ac awdur a Mary (née Evans) ei wraig. Bu ei frawd hynaf, Jonathan Francis, [3] yn weinidog y Bedyddwyr ym Mhen-y-fai a phriododd ei chwaer a'r Parch Stephen Davies, [4] gweinidog y Bedyddwyr yng Nghaerfyrddin. Bu farw Mary Francis ym 1739 pan oedd Benjamin yn 5 mlwydd oed a bu farw Enoch y flwyddyn ganlynol, [5] magwyd Benjamin ar ôl farwolaeth ei rieni gan berthnasau yn Abertawe.  Cafodd ei addysgu yn Athrofa'r Bedyddwyr ym Mryste.

Gyrfa

Bedyddiwyd Francis yn Abertawe ym 1749  a dechreuodd bregethu tua 1753 pan oedd yn 19 mlwydd oed. Wedi treulio cyfnod yn athrofa Bryste rhwng 1753 a 1755 cafodd swydd fel gweinidog cynorthwyol yn Broadmead, Bryste am flwyddyn. Ym 1756 symudodd i Chipping Sodbury, Swydd Gaerloyw i wasanaethu fel gweinidog ar brawf cyn symud i Horsley, Swydd Gaerloyw lle cafodd ei hordeinio ym 1759. Arhosodd yn Horsley am weddill ei fywyd. [6]

Pan ddechreuodd Francis ar ei weinidogaeth yn Horsley roedd achos y Bedyddwyr yn yr ardal yn fychan ac yn dlawd. Ond yn fuan dechreuodd arddull efengylaidd pregethu'r gweinidog newydd ddenu aelodau newydd i'r achos a bu'n rhaid helaethu'r capel ac agor capeli cangen mewn pentrefi cyfagos. [6] Yn ogystal â bod yn weinidog ar ei gapeli yng nghylch Horsley bu Francis yn efelychu'r Methodistiaid gan ddod yn bregethwr teithiol. Am lawer o'r flwyddyn byddai'n edrych ar ôl buddiannau ei gynulleidfa gartref ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ac yna'n teithio o ddydd Llun i ddydd Gwener trwy swyddi Caerloyw, Caerwrangon a Wiltshire gan gynnal oedfaon yn yr hwyr mewn amryw o drefi a phentrefi. [6] Cadwodd ei gysylltiad â Chymru a'r Gymraeg trwy deithio yng Nghymru a thrwy fynychu  cymanfaoedd y Bedyddwyr Cymraeg a phregethu i'r gymanfa ar 14 achlysur. [1]

Awdur ac emynydd

Ysgrifennodd Francis dau draethawd dychanol ar y ddadl Bedydd The Salopian Zealot a The Oracle, ailgyhoeddwyd y cyntaf sawl gwaith yn Lloegr a chafodd ei ailargraffu yn America. [7] Cyfieithwyd y taflenni i'r Gymraeg a chawsant eu dosbarthu yn ardal enedigol Francis, cylch Castellnewydd Emlyn. Daeth copïau o'r taflenni i law rhai o Annibynwyr yr ardal gan beri iddynt s i boeni am werth eu bedydd ac i holi os oedd angen eu bedyddio eto fel oedolion. Mewn ateb i'r pryderon cyhoeddodd Benjamin Efans [8] gweinidog yr Annibynwyr llyfryn ar ffurf gyfres o lythyrau, wedi eu cyfeirio at Francis. Anwybyddodd Francis llythyrau Efans ond cawsant eu hateb trwy lyfryn a gyhoeddwyd gan y Parch Dr William Richards, [9] gweinidog Cymraeg oedd yn byw yn King's Lynn, Swydd Norfolk.

Ysgrifennodd nifer o ddarnau o farddoniaeth Saesneg gan gynnwys cerddi coffa ar achlysur marwolaethau'r Parchedigion George Whitefield , Caleb Evans, Robert Day, a Joshua Thomas. [10]

Bu Francis yn emynydd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cynhwyswyd pump o'i emynau Saesneg yng Nghasgliad dylanwadol y Parch John Rippon A Selection of Hymns from the Best Authors (1787), [7] Roedd 103 emyn yn y llyfr cyntaf a 91 yn yr ail gyfrol.  Mae pedwar o'i emynau yn ymddangos yn Caneuon Ffydd, y Llyfr Emynau Cydenwadol a gyhoeddwyd yn 2001:

  • Emyn rhif 63 – Gofala Duw a Thad Pob dawn
  • 359 – Deffro 'nghalon, deffro 'nghân
  • 604 - Mae Eglwys Dduw fel dinas wych
  • 746 – Dilynaf fy Mugail drwy f'oes

Teulu

Priododd Francis dwywaith. Ym 1759 priododd â gwraig o'r enw Miss Harris, brodor o Gymru, bu iddynt pump o blant ond bu farw'r cyfan ond un cyn tyfu'n oedolion a bu farw'r fam o fewn pum mlynedd o'i phriodas. [6] Ym 1766 priododd a Mary Wallis, [11] bu iddynt deg o blant, ond dim ond tri ohonynt oedd yn dal i fyw ar adeg marwolaeth eu tad. [6]

Marwolaeth

Bu farw yn ei gartref yn 65 mlwydd oed a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent capel y Bedyddwyr Horsley.


Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 FRANCIS, BENJAMIN (1734 - 1799), emynydd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
  2. FRANCIS, ENOCH (1688-9 - 1740), gweinidog gyda'r Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
  3. FRANCIS, JONATHAN (1722/3 - 1801), gweinidog y Bedyddwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
  4. DAVIES, STEPHEN (bu farw 1794), atgyfodwr achos y Bedyddwyr yn nhref Caerfyrddin ar ôl diflaniad y gynulleidfa gyntaf yn y 17eg ganrif. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
  5. BRASLUN O HANES BEDYDDWYR CYMRU. Rhif vi.- Y Bedyddwyr o gyhoeddiad "Deddf y Goddefiad" yn 1689, hyd yn bresennol- GAN Y PARCH. J. SPINTHER JAMES, LLANDUDNO. Y Greal, Hydref 1875 tud. 226 Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN FRANCIS, A. C. O Horsley, Swydd Gaerloyw; Greal y Bedyddwyr; Cyf. I Rhif. 8 Awst 1827 tt 229-233 Adferwyd 5 Gorffennaf, 2020
  7. 7.0 7.1 Gwefan Hymnary Benjamin Francis adalwyd 5 Gorffennaf 2020
  8. EVANS, BENJAMIN (1740 - 1821), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 3 Gorffennaf 2020
  9. RICHARDS, WILLIAM (1749 - 1818), dadleuydd diwinyddol a gwleidyddol. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
  10. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN FRANCIS, A. C. O Horsley, Swydd Gaerloyw.-Parhad; Greal y Bedyddwyr; Cyf. I Rhif. 9 Medi 1827 Adferwyd 5 Gorffennaf 2020
  11. Phillimore Marriage Registers, 1531-1913 Gloucestershire Marriage Registers, Vol 7