Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Benjamin Francis"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 23 beit ,  7 mis yn ôl
B
 
== Awdur ac emynydd ==
Ysgrifennodd Francis dau draethawd dychanol ar y ddadl Bedydd ''The Salopian Zealot'' a ''The Oracle'', ailgyhoeddwyd y cyntaf sawl gwaith yn Lloegr a chafodd ei ailargraffu yn America. <ref name="Hymn">[https://hymnary.org/person/Francis_B Gwefan Hymnary Benjamin Francis] adalwyd 5 Gorffennaf 2020</ref> Cyfieithwyd y taflenni i'r Gymraeg a chawsant eu dosbarthu yn ardal enedigol Francis, cylch Castellnewydd Emlyn. Daeth copïau o'r taflenni i law rhai o Annibynwyr yr ardal gan beri iddynt s i boeni am werth eu bedydd ac i holi os oedd angen eu bedyddio eto fel oedolion. Mewn ateb i'r pryderon cyhoeddodd [[Benjamin Efans, Trewen|Benjamin Efans]] <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-EVAN-BEN-1740 EVANS, BENJAMIN (1740 - 1821), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 3 Gorffennaf 2020</ref> gweinidog yr Annibynwyr llyfryn ar ffurf gyfres o lythyrau, wedi eu cyfeirio at Francis. Anwybyddodd Francis llythyrau Efans ond cawsant eu hateb trwy lyfryn a gyhoeddwyd gan y Parch Dr [[William Richards]], <ref>[https://bywgraffiadur.cymru/article/c-RICH-WIL-1749 RICHARDS, WILLIAM (1749 - 1818), dadleuydd diwinyddol a gwleidyddol. Y Bywgraffiadur Cymreig.] Adferwyd 5 Gorffennaf 2020</ref> gweinidog Cymraeg oedd yn byw yn [[King's Lynn]], [[Norfolk|Swydd Norfolk]].
 
Ysgrifennodd nifer o ddarnau o farddoniaeth Saesneg gan gynnwys cerddi coffa ar achlysur marwolaethau'r Parchedigion George Whitefield , Caleb Evans, Robert Day, a Joshua Thomas. <ref name="Greal2">[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2129356/2158633/0#?xywh=-275%2C767%2C2993%2C1945 COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. BENJAMIN FRANCIS, A. C. O Horsley, Swydd Gaerloyw.-Parhad; Greal y Bedyddwyr; Cyf. I Rhif. 9 Medi 1827] Adferwyd 5 Gorffennaf 2020</ref>

Llywio