Silwriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 5: Llinell 5:
Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua [[48| 48 OC]] ffodd [[Caradog]] atynt wedi i'w lwyth ei hun, y [[Catuvellauni]], gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn [[Ostorius Scapula|Publius Ostorius Scapula]] pan ymosododd Ostorius arnynt hwy ac ar yr Ordoficiaid.
Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua [[48| 48 OC]] ffodd [[Caradog]] atynt wedi i'w lwyth ei hun, y [[Catuvellauni]], gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn [[Ostorius Scapula|Publius Ostorius Scapula]] pan ymosododd Ostorius arnynt hwy ac ar yr Ordoficiaid.


Gorchfygwyd Caradog yn [[51]] yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymeryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.
Bu Ostorius yn ymladd yn hir yn eu herbyn heb eu concro'n derfynol, ac wedi iddo ef farw enillasant fuddugoliaeth dros [[Legio II Augusta|yr Ail Leng]]. Dim ond tua 78 OC y gorchfygwyd hwy yn derfynol gan [[Sextus Julius Frontinus]].

Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn [[52]] heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu [[Legio II Augusta|yr Ail Leng]], oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, [[Aulus Didius Gallus]], gyrraedd. Dim ond 25 mlynedd yn ddiweddarach, dan Sextus Julius Frontinus, y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.


Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[Gwynllwg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.
Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum ([[Caerwent]] heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd [[Teyrnas Gwent|Gwent]], [[Brycheiniog]], [[Gwynllwg]] a [[Teyrnas Morgannwg|Morgannwg]]. Enwyd y cyfnod [[Silwraidd]] mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.

Fersiwn yn ôl 23:11, 2 Chwefror 2007

Llwythi Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Roedd y Silwriaid (Lladin: Silures) yn llwyth Brythonaidd oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru pan gyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal. Yn fras roeddynt yn byw yn yr hyn ddaeth yn nes ymlaen yn Sir Frycheiniog a Morgannwg. Roeddynt yn ffinio a'r Ordoficiaid yn y gogledd a'r Demetae yn y gorllewin. Yn ôl yr hanesydd Rhufeinig Tacitus roeddynt yn bobl bryd-tywyll gyda gwallt cyrliog.

Yr oeddynt yn nodedig am ymladd yn ffyrnig yn erbyn y Rhufeiniaid. Tua 48 OC ffodd Caradog atynt wedi i'w lwyth ei hun, y Catuvellauni, gael eu gorchfygu gan y Rhufeiniaid. Arweiniodd ef eu rhyfelwyr yn erbyn Publius Ostorius Scapula pan ymosododd Ostorius arnynt hwy ac ar yr Ordoficiaid.

Gorchfygwyd Caradog yn 51 yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid, ond parhaodd y Silwriaid i ymladd yn erbyn y Rhufeiniaid. Dywedir i Ostorius ddatgan fod y llwyth mor beryglus nes byddai raid eu lladd i gyd neu eu halltudio. Ymosododd y Silwriaid ar gorff o filwyr Rhufeinig oedd yn adeiladu caerau yn eu tiriogaeth, a dim ond trwy ymdrech fawr y gallodd y Rhufeiniaid eu hachub. Dywedir i'r Silwriaid gymeryd Rhufeinwyr yn garcharorion a'u rhannu ymhlith llwythau cyfagos i greu cynghrair yn erbyn Rhufain.

Bu farw Ostorius yn annisgwyl yn 52 heb fod wedi concro'r Silwriaid. Wedi ei farwolaeth ef gallasant orchfygu yr Ail Leng, oedd yn cael ei harwain gan Gaius Manlius Valens, cyn i'r llywodraethwr newydd, Aulus Didius Gallus, gyrraedd. Dim ond 25 mlynedd yn ddiweddarach, dan Sextus Julius Frontinus, y gorchfygwyd y llwyth yn derfynol.

Prifddinas y Silwriaid yn y cyfnod Rhufeinig oedd Venta Silurum (Caerwent heddiw). Wedi'r cyfnod Rhufeinig daeth tiriogaeth y Silwriaid yn deyrnasoedd Gwent, Brycheiniog, Gwynllwg a Morgannwg. Enwyd y cyfnod Silwraidd mewn daeareg ar ôl y llwyth yma, gan i greigiau o'r cyfnod yma gael eu disgrifio gyntaf yn nhiriogaeth y llwyth.


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid