Matthew Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Matthew Rhys
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1+) (robot yn ychwanegu: he:מת'יו ריס
Llinell 35: Llinell 35:
[[fr:Matthew Rhys]]
[[fr:Matthew Rhys]]
[[gl:Matthew Rhys]]
[[gl:Matthew Rhys]]
[[he:מת'יו ריס]]
[[it:Matthew Rhys]]
[[it:Matthew Rhys]]
[[ja:マシュー・リス]]
[[ja:マシュー・リス]]

Fersiwn yn ôl 15:35, 1 Awst 2011

Matthew Rhys
GalwedigaethActor

Actor Cymreig yw Matthew Rhys Evans sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw proffesiynol Matthew Rhys (ganwyd 4 Tachwedd[1] neu'r 8 Tachwedd,[2] [3]1974, Caerdydd). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Kevin Walker yn y ddrama deledu Americanaidd Brothers & Sisters, ac fel Dylan Thomas yn y ffilm The Edge of Love. Mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Ei gysylltiadau â Phatagonia

Yn y flwyddyn 2000, ymwelodd Rhys â Phatagonia er mwyn darganfod capeli Cymreig ac er mwyn clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan drigolion y wlad.[4] Tra yno, cafodd afael ar gopi o ddyddiadur y Cymro John Murray Thomas a aeth i Batagonia ar ddiwedd y 19eg ganrif wrth i nifer o Gymry allfudo i Batagonia. Yn 2005 dychwelodd Rhys i Batagonia am yr eildro ar ôl iddo dderbyn gwahoddiad wrth ddisgynyddion y Rifleros i olrhain y daith a wnaed gan y Cymry flynyddoedd ynghynt.

Yn 2010, cyhoeddodd lyfr lluniau "Patagonia: Croesi'r Paith" yn seiliedig ar y profiad.

Cyfeiriadau

  1. Gwefan y BBC Adalwyd ar 31-10-2010
  2. Download Brothers and Sisters Episodes Adalwyd ar 31-10-2010
  3. Matthew Rhys yn IMDb Adalwyd ar 31-10-2010
  4. Matthew Rhys’ new book, ‘Patagonia gets under your skin’ Wales Online. 20-11-2010. Adalwyd ar 04-12-2010


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.