Dorset: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 33: Llinell 33:
* [[Poole (etholaeth seneddol)|Poole]]
* [[Poole (etholaeth seneddol)|Poole]]


{{Trefi Dorset}}

{{Swyddi seremonïol Lloegr}}
{{Swyddi seremonïol Lloegr}}



Fersiwn yn ôl 21:14, 16 Mehefin 2020

Dorset
Mathsiroedd seremonïol Lloegr Edit this on Wikidata
PrifddinasDorchester Edit this on Wikidata
Poblogaeth776,780 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe-orllewin Lloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,813.998 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGwlad yr Haf, Dyfnaint, Wiltshire, Hampshire Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.8333°N 2.3333°W Edit this on Wikidata
Map

Swydd seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dorset (Saesneg: Dorset). Fe'i lleolir yn ne-orllewin y wlad ar lan Môr Udd rhwng siroedd Dyfnaint a Gwlad yr Haf i'r gorllewin, Wiltshire i'r gogledd a Hampshire i'r dwyrain. Ei brif ddinas a chanolfan weinyddol yw Dorchester. Mae ei thir yn isel ond fe'i croesir gan y Dorset Downs yn y de a'r gogledd. Y prif afonydd yw Afon Frome ac Afon Stour. Sir amaethyddol yw hi'n draddodiadol ond mae twristiaeth yn bwysig hefyd, yn arbennig yn ei threfi arfordirol fel Bournemouth a Weymouth. Ymhlith ei hynafiaethau mae bryngaer anferth Maiden Castle, ger Dorchester, yn sefyll allan. Mae nifer o lefydd yn y sir yn dwyn cysylltiad â gwaith llenyddol Thomas Hardy. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Wessex.

Lleoliad Dorset yn Lloegr

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Ardaloedd awdurdod lleol

Rhennir y swydd yn ddau awdurdod unedol:

  1. Bournemouth, Christchurch a Poole, sy'n llywodraethu'r prif gytref ar hyd rhan ddwyreiniol yr arfordir sy'n cynnwys y tair tref yn yr enw
  2. Dorset, sy'n gwasanaethu gweddill y sir, sy'n fwy gwledig

Daeth y ddau awdurdod i fodolaeth ar 1 Ebrill 2019 pan gyfunwyd wyth awdurdod llai:

  • Crëwyd Bournemouth, Christchurch a Pool trwy cyfuno y ddau awdurdod unedol Bwrdeistref Bournemouth a Bwrdeistref Poole â'r ardal an-fetropolitan Christchurch.
  • Crëwyd Cyngor Dorset trwy gyfuno y pum ardal an-fetropolitan:
    • Dwyrain Dorset
    • Gogledd Dorset
    • Gorllewin Dorset
    • Purbeck
    • Weymouth a Portland

Etholaethau seneddol

Rhennir y swydd yn wyth etholaeth seneddol yn San Steffan: