Ioan Fedyddiwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sc:Giuanne Battista |
B r2.7.1) (robot yn newid: lbe:ЯхӀя идавс |
||
Llinell 60: | Llinell 60: | ||
[[kv:Тöвся Иван лун]] |
[[kv:Тöвся Иван лун]] |
||
[[la:Ioannes Baptista]] |
[[la:Ioannes Baptista]] |
||
[[lbe: |
[[lbe:ЯхӀя идавс]] |
||
[[li:Johannes de Duiper]] |
[[li:Johannes de Duiper]] |
||
[[ln:Yoane Mobatisi]] |
[[ln:Yoane Mobatisi]] |
Fersiwn yn ôl 22:09, 23 Gorffennaf 2011
Proffwyd Iddewig sydd hefyd yn ffigwr pwysig mewn Cristionogaeth oedd Ioan Fedyddiwr (bu farw tua 30).
Ceir hanes ei eni yn Efengyl Luc yn y Testament Newydd, Roedd yn fab i offeiriad o'r enw Sechariah a'i wraig Elisabeth, oedd yn oedrannus ac wedi bod hyd hynny yn ddi-blant. Mae pob un o'r pedwar Efengyl yn sôn amdano yn pregethu ac yn bedyddio yn Afon Iorddonen. Mae'n fwyaf enwog oherwydd iddo fedyddio Iesu a'i gydnabod fel y Meseia.
Dywed yr Efengylau iddo gael ei garcharu gan Herod Antipas, tetrach Galilea, ychydig fisoedd wedi iddo fedyddio Iesu. Dywedir fod hyn oherwydd iddo gondemnio priodas Herod a Herodias, gwraig i frawd Herod, Philip.
Yn ôl yr hanesydd Josephus, dienyddiwyd Ioan gan Herod i osgoi gwrthryfel. Yn ôl Efengyl Mathew, dawnsiodd merch Herodias, Salome, i Herod, a'i blesio gymaint nes iddo addo iddi unrhyw beth a ddymunai. Ei dymuniad oedd cael pen Ioan.
Ioan Fedyddiwr yw nawddsant Puerto Rico, ac enwyd y brifddinas, San Juan ar ei ôl. Ef yw nawdd-sant Canada Ffrengig hefyd, a dethlir ei ddydd gŵyl, 24 Mehefin yn Quebec fel y Fête nationale du Québec. Ef hefyd yw nawdd-sant dinas Porto, ail ddinas Portiwgal.
Ystyrir ef yn broffwyd yn Islam hefyd, ac mae traddodiad ei fod wedi ei gladdu ym Mosg yr Ummaiaid, Damascus.