Crimea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: az:Qırım (deleted) yn newid: tr:Kırım (anlam ayrımı)
Llinell 19: Llinell 19:


[[ar:القرم (شبه جزيرة)]]
[[ar:القرم (شبه جزيرة)]]
[[az:Qırım]]
[[be:Аўтаномная рэспубліка Крым]]
[[be:Аўтаномная рэспубліка Крым]]
[[bg:Крим]]
[[bg:Крим]]
Llinell 54: Llinell 53:
[[sv:Krim]]
[[sv:Krim]]
[[tt:Qırım]]
[[tt:Qırım]]
[[tr:Kırım]]
[[tr:Kırım (anlam ayrımı)]]
[[uk:Автономна Республіка Крим]]
[[uk:Автономна Республіка Крим]]
[[wa:Crimêye]]
[[wa:Crimêye]]

Fersiwn yn ôl 21:48, 22 Gorffennaf 2011

Am y bwlch yng Ngwynedd a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler Bwlch y Gorddinan.
Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn Wcráin

Gorynys yng ngogledd y Môr Du yw'r Crimea neu Krym (Rwsieg Крым / Krym, Wcraineg Крим / Krym, Tatareg Crimea Qırım). Fe'i gweinyddir fel gweriniaeth hunanlywodraethol o fel Wcráin. Enw swyddogol y weriniaeth honno yw Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea (Wcraineg Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea Qırım Muhtar Cumhuriyeti).

Amgylchynir y Crimea bron yn gyfangwbl gan y Môr Du a rhan o Fôr Azov, gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.

Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid, gyda niferoedd sylweddol o Wcrainiaid (24%) a Tatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.

Coloneiddwyd y Crimea gan y Groegiaid yn y 6ed ganrif CC. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y Gothiaid, yr Hyniaid ac eraill. Yn 1239 cafodd ei wneud yn khaniad gan Tatariaid yr Haid Euraidd. Cipiwyd y khaniad gan y Tyrciaid yn 1475 a chafodd y Crimea ei feddiannu gan Rwsia yn 1783. Rhwng 1853 a 1856 ymladdwyd Rhyfel y Crimea yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd Prydain, Ffrainc ac Ymerodraeth yr Otomaniaid ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd (1941-1943). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i Uzbekistan yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.


Eginyn erthygl sydd uchod am Wcráin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.