Rhys Ifans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: eu:Rhys Ifans
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ka:რის ივანსი
Llinell 91: Llinell 91:
[[it:Rhys Ifans]]
[[it:Rhys Ifans]]
[[ja:リス・エヴァンス]]
[[ja:リス・エヴァンス]]
[[ka:რის ივანსი]]
[[nl:Rhys Ifans]]
[[nl:Rhys Ifans]]
[[no:Rhys Ifans]]
[[no:Rhys Ifans]]

Fersiwn yn ôl 12:59, 18 Gorffennaf 2011

Rhys Ifans
GalwedigaethActor

Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans. Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ar yr 22 Gorffennaf, 1968, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych yn fuan wedi hynny ble 'raeth i Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Maes Garmon. Roedd ei fam Beti Wyn yn brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn ei dad yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg megis Pobol y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Mae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif leisydd i'r Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth, gan fod yn brif leisydd y grwp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, Sienna Miller; a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith.

Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei waith yn y byd ffilmiau.

Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.


Ffilmiau

Enillodd wobr BAFTA am yr Actor Gorau am ei berfformiad fel Peter Cook yn Not Only But Always.

Cysylltiad allanol

  • (Saesneg) Rhys Ifans yn y Databas Ffilmiau'r Rhyngrwyd (IMDb)


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.