Kizzy Crawford: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dyddiad geni ac ail-drefnu
BDim crynodeb golygu
Llinell 6: Llinell 6:
| enwgenedigol = Kizzy Meriel Crawford
| enwgenedigol = Kizzy Meriel Crawford
| enwarall =
| enwarall =
| geni = {{dyddiad geni ac oedran|df=y|1995|04|25}}
| geni = {{dyddiad geni ac oedran|df=y|1996|04|25}}
| llegeni = [[Rhydychen]]
| llegeni = [[Rhydychen]]
| math = [[Canu Gwerin]], [[Soul]], [[Blws]], [[Jazz]]
| math = [[Canu Gwerin]], [[Soul]], [[Blws]], [[Jazz]]

Fersiwn yn ôl 20:40, 3 Mehefin 2020

Kizzy Crawford

Cantores a chyfansoddwraig werin a blws Bajan-Gymreig yw Kizzy Crawford (ganwyd 25 Ebrill 1996) sydd yn canu yn Gymraeg a Saesneg. Yn ôl Kizzy, "Ei huchelgais fel artist du Cymreig yw gwneud ei marc trwy gyfuno 'soul'/jazz dwyieithog".[1]

Cefndir

Kizzy yn Ionawr 2016.

Ganwyd Kizzy yn Rhydychen ond pan ysgarodd ei rhieni yn 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron.Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda thadcu a mamgu yn Diserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]

Mae teulu ei thad yn hannu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thadcu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n ystyried ei hun yn Gymraes.[3]

Cafodd ei haddysg yn Gymraeg ers oedd yn bedair oed. Yn ddiweddarach symudodd i fyw ym Merthyr Tudful.[4] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr. Hi yw'r hynaf o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Eädyth, sydd hefyd yn gantores.[5]

Enillodd Kizzy y gystadleuaeth Canwr/Cyfansoddwr 'Arts Connect' Merthyr a Rhondda Cynon Taf ym 2012 a'r gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau yn Eisteddfod Genedlaethol 2013.

Bywyd personol

Fel Cymraes hil-gymysg, mae wedi profi rhagfarn a hiliaeth ers yn ifanc iawn. Yn yr ysgol gynradd, byddai yn cael ei phryfocio gan ddisgyblion eraill yn gwneud sylwadau am lliw ei chroen. Yn 2014 aeth i berfformio yn Nhalacharn ar gyfer BBC Radio Wales a daeth hen ddyn fyny ati hi a'i mam gan ddweud "I hope there aren’t any more like you where you come from".[3]

Ym mis Medi 2019, canodd Kizzy Calon Lân gyda'i chwaer, Eady, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, yn datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru .[6]

Disgyddiaeth

  • The Starling (Sonig, 2013)
  • Temporary Zone (2013, EP, See Monkey Do Monkey.)
  • Golden Brown 2014
  • Shout Out / Yr Alwad 2015
  • Pili Pala 2015
  • Birdsong 2018

Cyfeiriadau

  1. Bywgraffiad ar wefan ei hunan
  2. (Saesneg) Kizzy Crawford Music. Kizzy Crawford (13 Medi 2019). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
  3. 3.0 3.1 Welsh singer racially abused at Laugharne festival , WalesOnline, 11 Mai 2014. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
  4. (Saesneg) Q&A with Welsh Musician Kizzy Crawford. Show Racism The Red Card (7 Hydref 2013). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
  5. Young singer Kizzy Crawford, from Merthyr Tydfil, wins Arts Connect Original Singer-Songwriter prize (en) , WalesOnline, 24 Ionawr 2013. Cyrchwyd ar 3 Mehefin 2020.
  6. "Sport and arts figures join independence rally" (yn Saesneg). 2019-09-07. Cyrchwyd 2019-09-11.

Dolenni allanol