Cymathiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be-x-old:Асыміляцыя (лінгвістыка) |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: hi:सम्मिलन (भाषाविज्ञान) |
||
Llinell 24: | Llinell 24: | ||
[[gl:Asimilación]] |
[[gl:Asimilación]] |
||
[[he:הידמות]] |
[[he:הידמות]] |
||
[[hi:सम्मिलन (भाषाविज्ञान)]] |
|||
[[hr:Jednačenje po zvučnosti]] |
[[hr:Jednačenje po zvučnosti]] |
||
[[hu:Hasonulás]] |
[[hu:Hasonulás]] |
Fersiwn yn ôl 18:55, 16 Gorffennaf 2011
Math o gyfnewid seinegol lle mae sain yn newid i fod yn debycach i sain arall yn ei gyd-destun yw cymathiad.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain ddilynol yn gymathiad blaen. Enghraifft o gymathiad blaen yn y Gymraeg yw simme a glywir ar lafar yn y gorllewin am simne. Yma mae'r m wedi troi'r n sy'n ei dilyn yn m hefyd.
Gelwir cymathiad lle mae sain yn dylanwadu ar sain flaenorol yn gymathiad ôl. Enghraifft o gymathiad ôl yn y Gymraeg yw tac-cu, a glywir yn aml am tad-cu yn y de. Yma mae'r c yn y cu wedi troi'r d ar ddiwedd tad yn c; mae hwn yn gymathiad llwyr. Mae campunt, a glywir yn gyffredin ar lafar am canpunt, yn enghraifft o gymathiad ôl rhannol. Yma mae'r p yn punt wedi dylanwadu ar y llythyren n flaenorol a'i thynnu yn nes at ei sain ei hun, drwy ei throi yn m. Enghraifft o gymathiad ôl sy'n effeithio ar lafariaid yw bwgwth am bygwth.