Gwlff Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.6.5) (robot yn newid: mzn:فارس دریامونا |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: kk:Парсы шығанағы |
||
Llinell 56: | Llinell 56: | ||
[[jv:Teluk Persia]] |
[[jv:Teluk Persia]] |
||
[[ka:სპარსეთის ყურე]] |
[[ka:სპარსეთის ყურე]] |
||
[[kk:Парсы шығанағы]] |
|||
[[ko:페르시아 만]] |
[[ko:페르시아 만]] |
||
[[ku:Kendava Fars]] |
[[ku:Kendava Fars]] |
Fersiwn yn ôl 21:29, 14 Gorffennaf 2011
Mae Gwlff Persia (Arabeg: الخليج الفارسى; Perseg: خلیج فارس) neu yn aml Y Gwlff yn estyniad neu gwlff o Gefnfor India sy'n gwahanu Iran oddi y gwledydd Arabaidd megis Saudi Arabia. Gwledydd eraill sydd ag arfordir ar y Gwlff yw Irac, Kuwait, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Qatar ac Oman, tra mae Bahrain yn ynys yn y Gwlff. Oherwydd fod rhan helaeth o olew y byd yn dod o'r ardal yma, mae o bwysigrwydd strategol eithriadol ac mae nifer o ryfeloedd wedi eu hymladd yma. Heblaw olew, mae Gwlff Persia yn nodedig am ei gyfoeth mewn pysgod a pherlau, ond mae wedi ei ddifrodi i raddau gan y diwydiant olew yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae arwynebedd y Gwlff tua 233,000 km². Ar yr ochr ddwyreiniol mae Culfor Hormuz yn ei gysylltu a Gwlff Oman. Ar yr ochr orllewinol, mae'r Shatt al-Arab, lle mae Afon Ewffrates ac Afon Tigris yn cyrraedd y môr. Nid yw'n ddyfn iawn, tua 90 m. yn y man dyfnaf a thua 50 m. ar gyfartaledd.
Er bod yr enw "Gwlff Persia" yn cael ei gofnodi cyn belled yn ôl a'r awduron clasurol, nid yw llawer o'r gwledydd Arabaidd o gwmpas y Gwlff yn ei dderbyn, gan ei fod yn awgrymu fod gan Iran hawl arno. Mae nifer o'r gwledydd hyn yn defnyddio Gwlff Arabia (Arabeg: الخلیج العربي al-khalīj al-ʿarabī) amdano.