Castell Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ychwanegu a thacluso
BDim crynodeb golygu
Llinell 3: Llinell 3:
==Caer Rufeinig Caerdydd==
==Caer Rufeinig Caerdydd==
[[Image:Cardiff_Castle_keep.jpg|250px|thumb|Gorthwr Normanaidd '''Castell Caerdydd''']]
[[Image:Cardiff_Castle_keep.jpg|250px|thumb|Gorthwr Normanaidd '''Castell Caerdydd''']]
[[Delwedd:Design_for_the_Summer_Smoking_Room_at_Cardiff_Castle.jpg|250px|bawd|Stafell Smygu Ardalydd Bute yn y castell newydd]]
Mae rhan helaeth o furiau'r castell Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y [[ganrif gyntaf OC]]. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig [[tywodfaen]] coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn [[400]] OC.
Mae rhan helaeth o furiau'r castell Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y [[ganrif gyntaf OC]]. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig [[tywodfaen]] coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn [[400]] OC.


Llinell 9: Llinell 10:


==Adeiladwaith diweddarach==
==Adeiladwaith diweddarach==
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y [[Pensaernïaeth|pensaer]] [[William Burges]], a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y [[Tylwyth Teg]]. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i [[amgueddfa]] lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn [[19eg ganrif|Oes Victoria]] hefyd i'w gweld.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y [[Pensaernïaeth|pensaer]] [[William Burges]], a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y [[Tylwyth Teg]] gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i [[amgueddfa]] lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn [[19eg ganrif|Oes Victoria]] hefyd i'w gweld.


==Mynediad a chyfleusterau==
==Mynediad a chyfleusterau==

Fersiwn yn ôl 17:17, 31 Ionawr 2007

Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19eg ganrif.

Caer Rufeinig Caerdydd

Gorthwr Normanaidd Castell Caerdydd
Stafell Smygu Ardalydd Bute yn y castell newydd

Mae rhan helaeth o furiau'r castell Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.

Y castell Normanaidd

Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyndŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Jasper Tudor ei feddiannu yn 1488.

Adeiladwaith diweddarach

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn Oes Victoria hefyd i'w gweld.

Mynediad a chyfleusterau

Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.

Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.

Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.

Cysylltiadau Allanol