Castell Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
D22 (sgwrs | cyfraniadau) B manion; 'Bute' yn hytrach na 'Biwt' a ddefnyddir mewn llefydd eraill gan Wicipedia |
ychwanegu a thacluso |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Castell Caerdydd''' ar safle ger canol dinas [[Caerdydd]] heddiw gan y [[Normaniaid]] yn [[1091]], ar safle [[Caerau Rhufeinig Cymru|caer Rufeinig]]. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan [[Ardalydd Bute]] yn y [[19eg ganrif]]. |
|||
⚫ | |||
==Caer Rufeinig Caerdydd== |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
Mae rhan helaeth o furiau'r castell Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y [[ganrif gyntaf OC]]. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig [[tywodfaen]] coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn [[400]] OC. |
|||
==Y castell Normanaidd== |
|||
⚫ | Yn ystod y |
||
⚫ | Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, [[Harri I, brenin Lloegr|Brenin Harri I Lloegr]], o [[1106]] tan [[1134]]. Yn [[1158]], y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan [[Ifor Bach]]. Daeth [[Owain Glyndŵr]] i reoli'r castell yn [[1404]], gan ei adael i'r Cymry tan i Jasper Tudor ei feddiannu yn [[1488]]. |
||
==Adeiladwaith diweddarach== |
|||
⚫ | |||
⚫ | Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y [[Pensaernïaeth|pensaer]] [[William Burges]], a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y [[Tylwyth Teg]]. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i [[amgueddfa]] lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn [[19eg ganrif|Oes Victoria]] hefyd i'w gweld. |
||
==Mynediad a chyfleusterau== |
|||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
⚫ | |||
==Cysylltiadau Allanol== |
==Cysylltiadau Allanol== |
||
Llinell 15: | Llinell 22: | ||
* [http://www.castlewales.com/cardiff.html Gwefan Cestyll Cymru] |
* [http://www.castlewales.com/cardiff.html Gwefan Cestyll Cymru] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Caerdydd]] |
||
[[Category: |
[[Category:Cestyll Cymru]] |
||
[[Categori:Caerau Rhufeinig Cymru]] |
|||
[[en:Cardiff Castle]] |
[[en:Cardiff Castle]] |
Fersiwn yn ôl 17:14, 31 Ionawr 2007
Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19eg ganrif.
Caer Rufeinig Caerdydd
Mae rhan helaeth o furiau'r castell Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.
Y castell Normanaidd
Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyndŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Jasper Tudor ei feddiannu yn 1488.
Adeiladwaith diweddarach
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell. Mae'r hyn a godwyd yn Oes Victoria hefyd i'w gweld.
Mynediad a chyfleusterau
Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.
Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.
Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.