Rhun ap Iorwerth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
B Cynulliad -> Senedd
Llinell 2: Llinell 2:
|rhagddodiad_anrhydeddus=
|rhagddodiad_anrhydeddus=
|enw=Rhun ap Iorwerth
|enw=Rhun ap Iorwerth
|olddodiad_anrhydeddus=AC
|olddodiad_anrhydeddus=AS
|delwedd=Rhun ap Iorwerth AM (27555192223).jpg
|delwedd=Rhun ap Iorwerth AM (27555192223).jpg
|pennawd=
|pennawd=
|trefn=
|trefn=
|swydd=[[Aelod o'r Senedd]]<br/>dros [[Ynys Môn (etholaeth Cynulliad)|Ynys Môn]]
|swydd=Aelod Cynulliad (AC)
|dechrau_tymor=2 Awst 2013
|dechrau_tymor=2 Awst 2013
|diwedd_tymor=presennol
|diwedd_tymor=presennol

Fersiwn yn ôl 14:59, 26 Mai 2020

Rhun ap Iorwerth AS
Rhun ap Iorwerth


Cyfnod yn y swydd
2 Awst 2013 – presennol
Rhagflaenydd Ieuan Wyn Jones

Geni (1972-08-27) 27 Awst 1972 (51 oed)
Tonteg, Pontypridd
Cenedligrwydd Cymro
Etholaeth Ynys Môn (etholaeth Cynulliad)
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Priod Llinos
Plant 3
Cartref Llangristiolus, Ynys Môn
Galwedigaeth Gwleidydd,Newyddiadurwyr
Gwefan Gwefan Wleidyddol
Mwyafrif o 9,166 yn 2013

Gwleidydd a newyddiadurwr Cymreig yw Rhun ap Iorwerth (ganed 27 Awst 1972),[1] aelod o Blaid Cymru a etholwyd i gynrychioli Ynys Môn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn Is-etholiad Ynys Môn, 2013.[2] Mynychodd Ysgol Rhyd-y-Main, Dolgellau am ychydig, cyn symyd i Ynys Môn a mynychu Ysgol Gynradd Llandegfan, cyn cael ei addysg uwchradd yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.[3] Yna aeth i Brifysgol Caerdydd ble graddiodd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth yn 1993. Roedd ei dad, Edward, yn brifathro ac yn rhan o'r ddeuawd 'Dafydd Iwan ac Edward' a 'Chwm Rhyd y Rhosyn'.

Ymunodd a BBC Cymru fel newyddiadurwr yn 1994. Gweithiodd fel gohebydd yn Westminster cyn dychwelyd i Gymru yn 1997. Yn 2001 fe'i penodwyd yn Brif Ohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, yn gweithio ar deledu a radio yn Gymraeg a Saesneg. Yn ystod y cyfnod hwn cyflwynodd raglenni ac eitemau i The Politics Show Wales, Dragon's Eye, ampm, BBC Radio Wales, Good Morning Wales, 'Post Cyntaf', rhaglenni amser brecwast a rhaglenni wythnosol ar wleidyddiaeth y dydd gan gynnwys 'Dau o'r Bae' a Newyddion S4C.

Yn Ionawr 2014 fe'i enwyd yn un o Noddwyr ('Patron') Cronfa Betsi Cadwaladr, sef yr adain wirfoddol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Gyrfa wleidyddol

Ar 1 Awst 2013 etholwyd Rhun i gynrychioli Ynys Môn ar y Cynulliad, gyda thair gwaith y pleidleisiau a gafodd yr ail ymgeisydd (Llafur); derbyniodd 12,601 o bleidleisiau. Roedd hyn yn tanseilio breuddwyd Llafur i gael mwyafrif o aelodau yn Senedd y Cynulliad.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1.  Cofnod Twitter ar ei ben-blwydd. Rhun ap Iorwerth (27 Awst 2012). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
  2.  Vaughan Roderick (2 Awst 2013). BBC News - Plaid's Anglesey win 'energising' for party, says Rhun ap Iorwerth. BBC. Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  3.  Elgan Hearn (30 Tachwedd 2011). Ysgol David Hughes hold a school "hawl i holi" meeting with local politicians. Daily Post. Adalwyd ar 2 Awst 2013.