Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfoes
dwaethaf
Llinell 7: Llinell 7:

Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (''space capsules'') yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Aries yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.

Lansiwyd y daith ofod ddiwethaf (sef taith ofod STS-135) gan yr [[American Space Shuttle]] ar yr 8ed o Orffennaf 2011.

==Gwennolau gofod Rwsia==
==Gwennolau gofod Rwsia==

Fersiwn yn ôl 18:05, 9 Gorffennaf 2011

Math o long ofod ydy gwennol y gofod neu wennol ofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl (bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain[1]). Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (European Space Agency), Gweriniaeth Pobl Tsieina a Siapan wedi cynllunio gwenolau gofod, ond yr unig wledydd i lwyddo mewn adeiladu a lansio cerbyd o'r math yw'r Unol Daleithiau a Rwsia.

Gwenolau gofod America

Y wennol ofod Enterprise.

Penderfynodd y sefydliad Americanaidd NASA ddylunio'r wennol ofod wedi i "raglen lleuad" Apollo ddod i ben yn 1972. Lansiwyd y wennol ofod gyntaf, Columbia, ar 12 Ebrill 1981, 20 mlynedd i'r diwrnod ar ôl i'r gofodwr cyntaf, Yuri Gagarin, gael ei lansio. Adeiladodd NASA bump o gerbydau: Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, ac Endeavour. Yn ogystal â bod yn gam ymlaen yn nhermau technolegol, bwriadwyd y wennol ofod oedd bod yn fwy economaidd nac unrhyw raglen arall.

Ystyriwyd bod yr hen sustem o rocedi a chapsiwlau gofod (space capsules) yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd i greu sustem trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen sustem o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Aries yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.

Lansiwyd y daith ofod ddiwethaf (sef taith ofod STS-135) gan yr American Space Shuttle ar yr 8ed o Orffennaf 2011.

Gwennolau gofod Rwsia

Dechreuodd Rwsia gynllunio gwennol ofod yn yr 70au cynnar. Y canlyniad oedd y cerbyd Buran, a lansiwyd (heb griw) yn 1988. Cafodd y cerbyd ei reoli o'r ddaear - y tro cyntaf yr oedd sefydliad wedi llwyddo gwneud hyn gyda gwennol ofod. Achos rhwystrau cyllidol, canslwyd y rhaglen Buran yn 1993 gan Boris Yeltsin a storiwyd y cerbyd, ond wnaeth y cerbyd ddioddef niwed difrifol yn 2002 pan syrthiodd to y storfa. Does yna ddim cynlluniau i adfywio'r rhaglen.

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am wyddoniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.