Bethlehem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: kl:Bethlehem
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 41: Llinell 41:
[[ga:Beitheal]]
[[ga:Beitheal]]
[[gl:Belén]]
[[gl:Belén]]
[[got:𐌱𐌴𐌸𐌻𐌰𐌹𐌷𐌰𐌹𐌼]]
[[got:𐌱𐌴𐌸𐌻𐌰𐌹𐌷𐌰𐌹𐌼/Beþlaihaim]]
[[he:בית לחם]]
[[he:בית לחם]]
[[hi:बेथलहम]]
[[hi:बेथलहम]]

Fersiwn yn ôl 01:39, 9 Gorffennaf 2011

Eglwys o gyfnod y Croesgadau ar gyrion Bethlehem
Mae'r erthygl hon yn ymwneud â'r dref hanesyddol yn Judaea. Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Bethlehem (gwahaniaethu)

Mae Bethlehem yn ddinas yn y Dwyrain Canol ar y Lan Orllewinol, lle cafodd Iesu Grist ei eni ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn ôl y traddodiad Beiblaidd. Yng ngwlad Judea oedd hi yn amser Crist, gwlad yr Iddewon, ond mae mwyafrif y boblogaeth nawr yn Arabiaid ac mae'r ddinas dan reolaeth Awdurdod Palesteina. Ystyr Bethlehem mewn Hebraeg safonol yw " bara".

Gorwedd safle traddodiadol Beddrod Rachel, sy'n safle cysegredig pwysig yn Iddewiaeth, ar ymyl y ddinas. Mae Bethlehem yn gartref i un o'r cymunedau Cristnogol Arabaidd mwyaf yn y Dwyrain Canol. Mae'r ddinas yn gorwedd tua 10 km (6 milltir) i'r de o Jeriwsalem, ar uchder o tua 765 m (2,510 troedfedd) uwchben lefel y môr. Mae cylch dinesig Bethlehem yn cynnwys trefi llai Beit Jala a Beit Sahour.

Tu mewn i Eglwys y Geni, Bethlehem

Saif Eglwys y Geni, a godwyd gan yr ymerodr Rhufeinig Cystennin Mawr yn y flwyddyn 330, yng nghanol Bethlehem dros ogof a elwir y Crypt Sanctaidd, man geni traddodiadol Iesu Grist. Hon efallai yw'r eglwys Gristnogol hynaf yn y byd sy'n dal i sefyll. Gerllaw y mae ogof arall lle treuliodd Sant Jerome, un o dadau'r eglwys, 30 mlynedd o'i oes yn cyfieithu'r Ysgrythurau i Ladin gan osod sylfaen y Beibl Fwlgat.

Mae Bethlehem yn gartref i Brifysgol Bethlehem, sefydliad Catholig pwysig a sefydlwyd gan y Fatican.

Ers rhai blynyddoedd mae Mur Diogelwch Israel yn rhwystr rhwng y ddinas a Jeriwsalem ac yn creu problemau economaidd mawr yn y ddinas. Mae twristiaeth yn arbennig wedi dioddef yn enbyd mewn canlyniad. Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol