Philippe Pétain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B manion |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: be:Анры Філіп Петэн |
||
Llinell 19: | Llinell 19: | ||
[[ar:فيليب بيتان]] |
[[ar:فيليب بيتان]] |
||
[[arz:فيليب بيتان]] |
[[arz:فيليب بيتان]] |
||
[[be:Анры Філіп Петэн]] |
|||
[[bg:Филип Петен]] |
[[bg:Филип Петен]] |
||
[[bs:Philippe Pétain]] |
[[bs:Philippe Pétain]] |
Fersiwn yn ôl 08:34, 6 Gorffennaf 2011
Milwr Ffrengig oedd Henri Philippe Pétain (24 Ebrill 1856 - 23 Gorffennaf 1951). Ef oedd pennaeth Llywodraeth Vichy yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymunodd a'r fyddin yn 1876 ac astudiodd yn Ysgol Filwrol Saint-Cyr. Daeth i sylw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan benododd y Cadlywydd Joseph Joffre ef i fod yn gyfrifol am fyddin Ffrainc ym Mrwydr Verdun. Llwyddodd y fyddin Ffrengig i wrthsefyll ymosodiad yr Almaenwyr, a daeth Pétain yn arwr cenedlaethol. Gwnaed ef yn Farsial bythefnos wedi diwedd y rhyfel.
Yn 1940, pan oedd yn 84 oed, cytunodd i weithredu fel pennaeth Llywodraeth Vichy, oedd yn gyfrifol am ran o Ffrainc fel gwladwriaeth hanner-annibynnol dan uwchlywodraeth yr Almaen wedi Brwydr Ffrainc. Ym mis Ebrill, 1945, wedi i Ffrainc gael ei rhyddhau, cymerwyd ef i'r ddalfa ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth. Rhoddwyd ef ar ei brawf, ei gael yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond oherwydd ei oedran a'i wasanaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf, newidiodd Charles de Gaulle y ddedfryd i garchar am oes. Bu farw yn 95 oed yn y carchar ar yr Île d'Yeu.