Thomas Jefferson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dinamik-bot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 116: Llinell 116:
[[ru:Джефферсон, Томас]]
[[ru:Джефферсон, Томас]]
[[rw:Thomas Jefferson]]
[[rw:Thomas Jefferson]]
[[sa:थामस् जेफरसन्]]
[[sa:थामस जेफरसन]]
[[scn:Thomas Jefferson]]
[[scn:Thomas Jefferson]]
[[sco:Thomas Jefferson]]
[[sco:Thomas Jefferson]]

Fersiwn yn ôl 03:20, 29 Mehefin 2011

Thomas Jefferson
Thomas Jefferson


Cyfnod yn y swydd
4 Mawrth 1801 – 4 Mawrth 1809
Is-Arlywydd(ion)   Aaron Burr (1801–1805)
George Clinton (1805–1809)
Rhagflaenydd John Adams
Olynydd James Madison

Geni 13 Ebrill 1743
Shadwell, Virginia, UDA
Plaid wleidyddol Democrataidd-Weriniaethol
Priod Martha Wayles Skelton Jefferson
Llofnod

Thomas Jefferson (13 Ebrill 1743 - 4 Gorffennaf 1826) oedd trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, o 1801 hyd 1809. Bu hefyd yn Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1797 a 1801 ac yn llywodraethwr talaith Virginia (1779-1781). Ef oedd prif awdur Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a sylfaenydd Prifysgol Virginia.

Ganed Jefferson yn Shadwell, Virginia ar yr 2 Ebrill 1743, yn ôl y Calendr Iwlaidd oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr Ymerodraeth Brydeinig yr adeg honno, neu 13 Ebrill yn ôl y Calendr Gregoraidd a fabwysiadwyd yn 1752. Ef oedd y trydydd o ddeg plentyn Jane Randolph a Peter Jefferson. Yn 1752, dechreuodd Jefferson fynd i ysgol a gedwid gan William Douglas, ac yn naw oed dechreuodd astudio Lladin, Groeg a Ffrangeg. Bu farw ei dad yn 1757 ac etifeddodd tua 5,000 acer o dir a dwsinau o gaethweision. Adeiladodd blas ar y tir yma, a alwodd yn Monticello.

Aeth i ysgol y Parchedig James Maury yn Fredericksburg rhwng 1758 a 1760, ac aeth i'r coleg yn Williamsburg yn 16 oed, lle bu'n astudio dan William Small. Yn ddiweddarach astudiodd y gyfraith, a thrwyddedwyd ef yn gyfreithiwr yn Virginia yn 1767.

Yn 1772, priododd wraig weddw, Martha Wayles Skelton (1748-1782). Cawsant chwech plentyn. Dywedir iddo hefyd gael nifer o blant gydag un o'i gaethweision, Sally Hemings, ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw yn Monticello 4 Gorffennaf 1826.

Yn ôl traddodiad y teulu, roedd Jefferson o dras Cymreig, a'r teulu yn hannu o Eryri. Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Faenol ger Bangor yn 2006, dadorchuddiwyd cofeb i goffáu ei gysylltiad â'r ardal.


Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol