Tasmania: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.6.4) (robot yn newid: ja:タスマニア州 |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fo:Tasmania |
||
Llinell 51: | Llinell 51: | ||
[[fa:تاسمانی]] |
[[fa:تاسمانی]] |
||
[[fi:Tasmania]] |
[[fi:Tasmania]] |
||
[[fo:Tasmania]] |
|||
[[fr:Tasmanie]] |
[[fr:Tasmanie]] |
||
[[fy:Tasmaanje]] |
[[fy:Tasmaanje]] |
Fersiwn yn ôl 13:57, 28 Mehefin 2011
Ynys a thalaith yng Nghymanwlad Awstralia (neu Awstralia) yw Tasmania. Mae cyfandir Awstralia yn gorwedd i’r gogledd o’r ynys a'r Antarctig i’r de ohoni. I'r dwyrain, rhwng yr ynys a Seland Newydd, ceir Môr Tasman. Cafodd ei enwi ar ôl y fforiwr o'r Iseldiroedd, Abel Janszoon Tasman. Tasmania yw'r chweched ar hugain fwyaf o ynysoedd y byd yn ddaearyddol. Mae 484,700 o bobl yn byw yn Nhasmania (Mawrth 2005, ABS).
Prifddinas Tasmania yw Hobart. Mae dinasoedd eraill yn cynnwys Launceston yn y gogledd a Devonport a Burnie yn y gogledd-orllewin.
Hanes Tasmania
Cyrhaeddodd y bobl gyntaf Dasmania rhwng tua 29,000 a 140,000 o flynyddoedd yn ôl.
Sefydlodd llywodraeth Prydain Fawr y drefedigaeth gosbol gyntaf ar yr ynys yn 1803, yn Hobart. Roedd y gwladychwyr cyntaf gan amlaf yn garcharion a'u gwarchodwyr, a weithiai i ddatblygu diwydiant ac amaeth. Mae'r trefedigaethau cosbol eraill yn cynnwys Port Arthur a Macquarie Harbour.
Chwaraeon
Chwaraeon mwyaf poblogaidd Tasmania yw criced a phêl-droed rheolau Awstralaidd.
Anifeiliaid brodorol
- Y Teigr Tasmanaidd (thylasin) – nas gwelwyd ers 1936.
- Y Diafol Tasmanaidd
Enwogion Tasmania
- Errol Flynn (actor)
- Mary Donaldson (brenhines Denmarc)
- Ricky Ponting (cricedwr)
- Truganini (y brodor olaf)
Taleithiau a thiriogaethau Awstralia |
|
---|---|
De Awstralia | De Cymru Newydd | Gorllewin Awstralia | Queensland | Tasmania | Tiriogaeth y Gogledd | Tiriogaeth Prifddinas Awstralia | Victoria |