Graffiti: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: fa:نگارگری دیواری |
B robot yn ychwanegu: sl:Grafit (umetnost) yn newid: fa:دیوارنگاری |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[et:Grafiti]] |
[[et:Grafiti]] |
||
[[eu:Graffiti]] |
[[eu:Graffiti]] |
||
[[fa: |
[[fa:دیوارنگاری]] |
||
[[fi:Graffiti]] |
[[fi:Graffiti]] |
||
[[fr:Graffiti]] |
[[fr:Graffiti]] |
||
Llinell 65: | Llinell 65: | ||
[[simple:Graffiti]] |
[[simple:Graffiti]] |
||
[[sk:Graffiti]] |
[[sk:Graffiti]] |
||
[[sl:Grafit (umetnost)]] |
|||
[[sr:Grafiti]] |
[[sr:Grafiti]] |
||
[[sv:Graffiti]] |
[[sv:Graffiti]] |
Fersiwn yn ôl 02:12, 23 Mehefin 2011
Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.
Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.