Ian McKellen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn newid: uk:Єн Маккеллен |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gl:Ian McKellen |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[fr:Ian McKellen]] |
[[fr:Ian McKellen]] |
||
[[ga:Ian McKellen]] |
[[ga:Ian McKellen]] |
||
[[gl:Ian McKellen]] |
|||
[[he:איאן מק'קלן]] |
[[he:איאן מק'קלן]] |
||
[[hu:Ian McKellen]] |
[[hu:Ian McKellen]] |
Fersiwn yn ôl 15:56, 22 Mehefin 2011
Ian McKellen | |
---|---|
Galwedigaeth | Actor |
Actor llwyfan a ffilm Seisnig yw Syr Ian Murray McKellen (ganwyd 25 Mai 1939). Yn ystod ei yrfa mae ef wedi derbyn Gwobr Tony a dau enwebiad am Wobrau'r Academi. Amrywia ei waith o ddramâu Shakesperaidd i theatr fodern a ffilmiau gwyddonias. Mae'n adnabyddus i nifer fel cymeriad Gandalf yn y dair ffilm Lord of the Rings ac fel Magneto yn y ffilmiau X-Men.
Ym 1988, daeth allan fel dyn hoyw a daeth yn un o'r bobl a sefydlodd "Stonewall", un o fudiadau hawliau LHDT mwyaf dylanwadol y Deyrnas Unedig. Mae'n parhau i fod yn lefarydd blaenllaw ar eu rhan.
Derbyniodd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) ym 1979 a chafodd ei urddo yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1991 am ei waith a chyfraniad eithriadol i'r theatr. Yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2008, derbyniodd "Companion of Honour" (CH) am ei wasanaethau i ddrama a chydraddoldeb. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y wobr CH iddo gan y Frenhines, cyfeiriodd y swyddog o Balas Buckingham at ei "wasanaeth i ddrama" yn unig, rhywbeth a ddigiodd McKellen.