Llyn Yamdrok: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: es:Lago Yamdrok |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ko:암드록쵸 호수 |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[fr:Yamdrok-Tso]] |
[[fr:Yamdrok-Tso]] |
||
[[ja:ヤムドク湖]] |
[[ja:ヤムドク湖]] |
||
[[ko:암드록쵸 호수]] |
|||
[[lt:Jamdrokas]] |
[[lt:Jamdrokas]] |
||
[[nl:Yamdrok]] |
[[nl:Yamdrok]] |
Fersiwn yn ôl 23:14, 20 Mehefin 2011
Llyn yn rhaglawiaeth Lhasa, Tibet, a ystyrir yn un o lynnoedd sanctaidd y wlad honno, yw Llyn Yamdrok (Tibeteg: Yamdrok Yumtso, ཡར་འབྲོག་གཡུ་མཚོ་ Yamdrok Yumtso neu Yamdrok Tso; Wylie: Yar-'brog G.yu-mtsho). Ei hyd yw tua 72 km (45 milltir). Amgylchynnir y llyn gan sawl copa eiraog ac mae'n cael ei fwydo gan nifer o ffrydiau sy'n disgyn o lethrau'r mynyddoedd hynny. Mae'n gorwedd tua 90 km i'r dwyrain o dref Gyantse a thua 100km i'r de-ddwyrain o Lhasa. Yn ôl traddodiad mae'n gartref i dduwies leol.
Fel Lhamo La-tso, Llyn Namtso a Llyn Manasarovar, mae Yamdrok yn un o lynnoedd sanctaidd Bwdhaeth Tibet. Caiff ei barchu fel talisman sy'n un o'r lleoedd sy'n cynrychioli ysbryd cenedl y Tibetiaid. Dyma'r llyn mwyaf yn Ne Tibet. Ceir tua dwsin o ynysoedd arno, gyda un ohonynt yn gartref i Fynachlog Samding, yr unig fynachlog yn Nhibet gydag abades yn bennaeth ar gymuned o fynachod.