Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: ro:Carol Quintul
Llinell 67: Llinell 67:
[[pt:Carlos I de Espanha]]
[[pt:Carlos I de Espanha]]
[[qu:Carlos V]]
[[qu:Carlos V]]
[[ro:Carol Quintul, Împărat al Sfântului Imperiu Roman]]
[[ro:Carol Quintul]]
[[ru:Карл V (император Священной Римской империи)]]
[[ru:Карл V (император Священной Римской империи)]]
[[scn:Carlu V, Sacru Rumanu Mpiraturi]]
[[scn:Carlu V, Sacru Rumanu Mpiraturi]]

Fersiwn yn ôl 00:34, 18 Mehefin 2011

Siarl V, darlun gan Jakob Seisenegger

Siarl V (24 Chwefror 150021 Medi 1558), hefyd Siarl o Luxemburg, oedd yr Ymerawdwr Glân Rhufeinig rhwng 1519 a 1556. Roedd hefyd yn frenin Sbaen fel Siarl I rhwng 1516 a 1556.

Roedd yn fab i Felipe I, a fu'n frenin Castilla am gyfnod byr, a'i wraig Juana o Castilla (Juana Wallgof). Ei daid a'i nain ar ochr ei fam oedd Ferdinand II, brenin Aragon ac Isabella I, brenhines Castilla, tra ar ochr ei dad, roedd yn ŵyr i Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.

Priododd Isabella, chwaer Ioan III, brenin Portiwgal, yn 1526. Roedd eu plant yn cynnwys:

Ef a roddodd bun llong i Ferdinand Magellan, y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd yn 1522, wedi i frenin Portiwgal ei wrthod. Ymestynnodd ymerodraeth Sbaen yn y Byd Newydd yn fawr yn ystod ei deyrnasiad, gyda Hernán Cortés a Francisco Pizarro yn gorchfygu ymerodraethau'r Aztec a'r Inca. Bu'n ymladd llawer gydag Ymerodraeth yr Otomaniaid dan y Swltan Swleiman I.