Jørgen Engebretsen Moe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: fr:Jørgen Moe |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ru:Му, Йорген Энгебретсен |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[no:Jørgen Moe]] |
[[no:Jørgen Moe]] |
||
[[pl:Jørgen Moe]] |
[[pl:Jørgen Moe]] |
||
[[ru:Му, Йорген Энгебретсен]] |
|||
[[sv:Jørgen Moe]] |
[[sv:Jørgen Moe]] |
Fersiwn yn ôl 17:15, 16 Mehefin 2011
Roedd Jørgen Engebretsen Moe (1813 - 1882) yn arbenigwr llên gwerin a bardd o Norwy. Mae'n ffigwr pwysig yn hanes adfywiad llenyddol a chenedlaethol Norwy yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu'n esgob Christiansand o 1875 hyd 1881.
Ganwyd Moe ar fferm yn Hole, Ringerike. Roedd yn blentyn darllengar a hoffia fyd natur. Gyda'r nos byddai'n gwrando hen chwedlau ar aelwyd y teulu neu yn y ffermydd cyfagos, a hynny ar adeg pan oedd y chwedlau'n fyw ar gof gan yr hen genhedlaeth o hyd.
Gyda Peter Christian Asbjørnsen, ei hen ffrind ysgol, casglodd a golygodd gasgliad pwysig a hynod ddylanwadol o chwedlau llên gwerin traddodiadol (eventyr) Norwyeg (1841-1844), y Norske folke og huldre-eventyr.
Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o gerddi rhamantaidd yn 1850, ynghyd â chlasur o gyfrol i blant, I brønden og i kjœrnet (1851).
Roedd mab Jørgen Moe, Moltke, yn arbenigwr llên gwerin o fri, athro llên gwerin cyntaf Priyfysgol Christiana.
Llyfryddiaeth
Cyfieithiwyd detholiad da o chwedlau Moe ac Asbjørnsen i'r Saesneg gan Pat Shaw Iversen a Carl Norman, gyda'r lluniau gan Erik Werenskiold a Theodor Kittelsen o'r argraffiad Norwyaidd poblogaidd a gyhoeddwyd yn 1878:
- Norwegian Folk Tales (Dreyers Forlag, Oslo, 1978)
Yn Gymraeg ceir addasiadau o rai o'r chwedlau yn,
- Eirwen Shelbourne (cyf.), Chwedlau Norwy (Llandybïe, 1970)