Canabis (cyffur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Naldwr (sgwrs | cyfraniadau) mân newidiadau |
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Cannabis (cyffur) i Canabis (cyffur): Gwirwyd sillafiad Geiriadur yr Academi a Bangor |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 05:34, 21 Ebrill 2020
Mae Canabis, a elwir hefyd yn marijuana[1], ganja (Hindi: गांजा gānjā), gêr, reu,[2] neu mwg drwg yn gynnyrch seicoweithredol sy'n deillio o'r planhigyn Canabis. Mae ffurf berlysiol y cyffur yn cynnwys blodau aeddfed y planhigyn wedi'u sychu ynghŷd â dail o'r planhigyn. Mae'r ffurf resin, sy'n cael ei alw'n hashish yn bennaf, yn cynnwys blew chwarennol wedi'u casglu'r o'r un defnydd planhigyn.
Y prif gyfansoddyn cemegol biolegol byw mewn canabis yw Δ9-tetrahydrocannabinol (delta-9-tetrahydrocannabinol), a gyfeirir ato'n gyffredinol fel THC.
Mae'r ddynol ryw wedi bod yn defnyddio canabis ers cyn hanes, ond ers yr 20g mae cynnydd wedi bod yn y defnydd ohono at ddibenion hamdden, crefyddol, ysbrydol a meddygol. Amcangyfrifir bod tua phedwar y cant o boblogaeth oedolion y byd yn defnyddio canabis yn flynyddol, a 0.6 y cant yn ddyddiol.[3] Daeth bod ym meddiant, defnyddio neu werthu cynnyrch seicoweithredol canabis yn anghyfreithiol yn y rhan fwyaf o wledydd y byd yn ystod yr 20fed ganrif. Ers hynny, mae rhai gwledydd wedi ceisio gwahardd y defnydd o ganabis yn llwyr, tra bo gwledydd eraill wedi dewis ei gyfreithloni neu leihau lefel difrifoldeb bod â chanabis yn eich meddiant.
Cyfeiriadau
- ↑ Diffiniad y Compact Oxford Ditctionary
- ↑ Trafodaeth am darddiad y gair Reu ar maes-e
- ↑ Cannabis: Why we should care World Drug Report 2006, Cyfrol 1 tud.14