Galatiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: 250px|bawd|"Y Galiad clwyfedig" - copi Rhufeinig o gerflun enwog o ryfelwr Galataidd, o Bergamon (Amgueddfa'r Capitol, [[Rhufain)]] Yr oedd y... |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
bedwar is-lwyth yr un (''tetrarchau''). Roedd eu hiaith, [[Galateg]], yn debyg iawn i'r iaith [[Galeg|Aleg]] a siaredid yng [[Gâl|Ngâl]]. |
bedwar is-lwyth yr un (''tetrarchau''). Roedd eu hiaith, [[Galateg]], yn debyg iawn i'r iaith [[Galeg|Aleg]] a siaredid yng [[Gâl|Ngâl]]. |
||
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth [[Asia Leiaf|Anatolia]] ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Nicomedes I]] o deyrnas [[Bithynia]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Persia]]id. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd [[Pergamon]]; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o [[189 CC]] pan gollasant frwydr bwysig, hyd at [[25 CC]] pan greodd yr [[Ymerodron Rhufeinig|ymerodr]] Augustus dalaith [[Galatia]]. |
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth [[Asia Leiaf|Anatolia]] ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin [[Nicomedes I]] o deyrnas [[Bithynia]] i'w gynorthwyo yn erbyn y [[Persia]]id. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd [[Pergamon]]; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]], ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o [[189 CC]] pan gollasant frwydr bwysig, hyd at [[25 CC]] pan greodd yr [[Ymerodron Rhufeinig|ymerodr]] [[Augustus]] dalaith [[Galatia]]. |
||
Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau[[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[4edd ganrif]] cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith [[Groeg|Roeg]] ac ar ôl hynny [[Tyrceg]]. |
Ymddengys fod y [[Llythyr Paul at y Galatiaid|llythyr enwog at y Galatiaid]] gan [[Paul|Sant Paul]] yn annerch cymunedau[[Cristnogaeth|Cristnogol]] ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y [[3edd ganrif|3edd]] neu'r [[4edd ganrif]] cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith [[Groeg|Roeg]] ac ar ôl hynny [[Tyrceg]]. |
Fersiwn yn ôl 22:02, 26 Ionawr 2007
Yr oedd y Galatiaid yn bobloedd Celtaidd a fudodd o ardal yng nghanolbarth Ewrop, trwy'r Balcanau, i fyw yn Asia Leiaf tua 278 CC. Mae awduron Clasurol yn dweud eu bod nhw wedi'u rhannu'n dri llwyth mawr - y Tolisto(b)agii, y Trocmi a'r Tectosages - a bod y llwythau hynny yn eu tro wedi'u rhannu'n bedwar is-lwyth yr un (tetrarchau). Roedd eu hiaith, Galateg, yn debyg iawn i'r iaith Aleg a siaredid yng Ngâl.
Ymsefydlasant yng ngorllewin canolbarth Anatolia ar ôl cael eu gwahodd yno gan y brenin Nicomedes I o deyrnas Bithynia i'w gynorthwyo yn erbyn y Persiaid. Ymladdasant sawl gwaith yn erbyn brenhinoedd Pergamon; dethlir buddugoliaethau'r Pergamoniaid drsotynt mewn cyfres o gerfluniau enwog sydd wedi goroesi fel copïau Rhufeinig. Yn ddiweddarach daeth eu tiriogaeth yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, ond dim ond ar ôl brwydr hir i gadw eu hannibyniaeth a barodd o 189 CC pan gollasant frwydr bwysig, hyd at 25 CC pan greodd yr ymerodr Augustus dalaith Galatia.
Ymddengys fod y llythyr enwog at y Galatiaid gan Sant Paul yn annerch cymunedauCristnogol ifainc mewn rhannau gwledig o Galatia. Ymddengys fod yr iaith Alateg wedi parhau yn y parthau hynny hyd at y 3edd neu'r 4edd ganrif cyn iddi gael ei disodli gan yr iaith Roeg ac ar ôl hynny Tyrceg.