Ymgyrch Grym Cynghreiriol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
iaith naturiol
B dolen
Llinell 10: Llinell 10:
* [[Bomio dyngarol]]
* [[Bomio dyngarol]]
* [[Cyfrifoldeb i amddiffyn]]
* [[Cyfrifoldeb i amddiffyn]]
* [[Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia#Rhyfel Kosovo|Cysylltiadau rhwng NATO a Ffederasiwn Rwsia yn ystod Rhyfel Kosovo]]
* [[Rhyfel cyfiawn]]
* [[Rhyfel cyfiawn]]



Fersiwn yn ôl 00:20, 9 Mehefin 2011

Ymgyrch filwrol gan NATO o rym awyrennol ar ffurf bomio strategol yn erbyn Gweriniaeth Ffederal Iwgoslafia yn ystod Rhyfel Kosovo oedd Ymgyrch Grym Cynghreiriol (Saesneg: Operation Allied Force). Parhaodd y cyrchoedd awyr gan 11 o aelod-wladwriaethau NATO o 24 Mawrth 1999 hyd 10 Mehefin 1999.

Y rheswm swyddogol dros fomio Iwgoslafia oedd Ymgyrch Pedol. Yn sgîl ymchwiliadau dilynol ac achosion llys gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia, cadarnhawyd fod lluoedd diogelwch Iwgoslafaidd yn gyfrifol am droseddau yn erbyn dynoliaeth a chamdriniaethau hawliau dynol yn erbyn poblogaeth sifil Kosovo, yn enwedig yn ystod ymgyrch fomio NATO.

Yr ail ymgyrch filwrol fawr yn hanes NATO oedd Ymgyrch Grym Cynghreiriol, yn dilyn Ymgyrch Grym Bwriadol ym Mosnia a Hercegovina yn ystod Rhyfel Bosnia ym mis Medi 1995. Ni chafwyd gefnogaeth y Cenhedloedd Unedig cyn i luoedd y cynghrair ddechrau bomio.

Arweiniodd y bomio at giliad lluoedd Iwgoslafaidd o Kosovo, a sefydlu Cenhadaeth Gweinyddu Dros Dro y Cenhedloedd Unedig yn Kosovo (UNMIK) i ddod â therfyn i Ryfeloedd Iwgoslafia'r 1990au. Beirniadwyd yr ymgyrch fomio, yn enwedig oherwydd y niferoedd sifil a laddwyd.

Gweler hefyd