Mêl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Blwch tacson using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Runny hunny.jpg|bawd|Mêl]]
[[Delwedd:Runny hunny.jpg|bawd|Mêl]]
[[Delwedd:Honey comb.jpg|bawd|]]
[[Delwedd:Bee on -calyx 935.jpg|bawd|]]

Hylif melys a gynhyrchir gan [[gwenynen mêl|wenyn]] yw '''mêl'''. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel [[neithdar]].
Hylif melys a gynhyrchir gan [[gwenynen mêl|wenyn]] yw '''mêl'''. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel [[neithdar]].



Golygiad diweddaraf yn ôl 18:05, 16 Ebrill 2020

Mêl

Hylif melys a gynhyrchir gan wenyn yw mêl. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel neithdar.

Mae mêl yn gymysgedd o nifer o siwgrau (yn bennaf ffrwctos a glwcos) ac mae'n cynnwys fitaminau (B6 ac eraill), mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm a sinc), rhai asidau amino ac ensymau.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Fel arfer, defnyddir mêl i goginio a phobi neu i'w ledaenu ar fara neu dost. Defnyddir mêl hefyd i roi blas ar ddiodydd fel te.

Diod feddwol wedi'i wneud o fêl yw medd. Ar un adeg ystyrid mai medd oedd y ddiod orau y gellid ei chael; sonnir yn y Gododdin mai dyna a gâi milwyr yr Hen Ogledd i'w yfed cyn mynd i'r gad.

Ymhlith y blasau mwyaf poblogaidd y mae Blodeuyn Acasia (yn bennaf o Ddwyrain Ewrop), Blodeuyn Afal a Cheirios (o Brydain) a Chneuen gastan (De Ewrop).

Gall mêl fod yn hylif neu yn hufen, gan fod crisialau siwgwr yn ffurfio ar ôl peth amser. Mae mêl crwybr, mêl â darnau o grwybr a mêl talpiau yn cynnwys darnau o grwybr cwyr sydd yn fwytadwy hefyd.

Meddygol[golygu | golygu cod]

Mae rhai pobl yn meddwl fod mêl yn gwneud lles i'ch iechyd.

Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (infant botulinism) i blant dan ddeunaw mis oed.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyswllt allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am mêl
yn Wiciadur.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: