Plaid Ryddfrydol (DU): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.5.1) (robot yn newid: it:Partito Liberale (Regno Unito) |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
*[[Plaid Ryddfrydol (DU, 1989)]] |
*[[Plaid Ryddfrydol (DU, 1989)]] |
||
[[Categori:Plaid Ryddfrydol (DU)]] |
|||
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig|Rhyddfrydol]] |
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig|Rhyddfrydol]] |
||
[[Categori:Pleidiau rhyddfrydol]] |
[[Categori:Pleidiau rhyddfrydol]] |
Fersiwn yn ôl 19:33, 7 Mehefin 2011
Plaid wleidyddol a dyfodd allan o blaid y Wigiaid i fod yn un o dair plaid fawr y DU oedd y Blaid Ryddfrydol. Unodd y blaid â'r SDP yn yr wythdegau i ffurfio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
Uchafbwynt hanes y blaid oedd o ganol y 19eg ganrif hyd y Rhyfel Byd Cyntaf dan y prif weinidogion Rhyddfrydol William Ewart Gladstone, Sir Henry Campbell-Bannerman, Clement Asquith a David Lloyd George. Yn y cyfnod hwnnw y Rhyddfrydwyr oedd y blaid fwyaf o lawer yng Nghymru ac yn rhan o'r mudiad Radicalaidd oedd yn galw am ymreolaeth i Gymru ac Iwerddon. Arweiniodd anghydfod rhwng Lloyd George ac Asquith at ymraniad yn y blaid ar ôl y Rhyfel Mawr a chollodd y Rhyddfrydwyr dir i'r Blaid Lafur a gymerodd le'r Rhyddfrydwyr fel gwrthblaid yn 1922.
Mwynheodd y blaid gyfnod o adfywiad dan arweinyddiaeth Jo Grimond (1956-1957) ac wedyn Jeremy Thorpe (1967-1976) tan i'r olaf orfod ymddiswyddo yn sgîl sgandal am ei fywyd personol. Dan David Steel daeth y blaid mewn cytundeb â'r Blaid Lafur a ffurfiwyd y Pact Lib-Lab i gadw'r Torïaid allan o lywodraeth (1977-1978). Yn 1981 ffurfiwyd cynghrair gyda'r SDP a arweiniodd yn y pen draw at lawnsio plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol.