Cassandra: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Kassandra
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: id:Kassandra
Llinell 31: Llinell 31:
[[hy:Կասսանդրա]]
[[hy:Կասսանդրա]]
[[ia:Cassandra]]
[[ia:Cassandra]]
[[id:Kassandra]]
[[is:Kassandra]]
[[is:Kassandra]]
[[it:Cassandra (mitologia)]]
[[it:Cassandra (mitologia)]]

Fersiwn yn ôl 01:02, 7 Mehefin 2011

Cassandra; llun gan Evelyn De Morgan

Cymeriad ym Mytholeg Groeg oedd Cassandra (Groeg: Kασσάνδρα), hefyd Alexandra. Roedd yn ferch i Priam, brenin Caerdroea a'i wraig Hecuba.


Roedd ganddi'r ddawn o broffwydo'r dyfodol. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, treuliodd hi a'i brawd Helenus moson yn nheml Apollo, a llyfodd y nadroedd yn y deml ei chlustiau yn lân, fel y gallai glywed y dyfodol. Syrthiodd Apollo mewn cariad a hi, ond pan na ddychwelodd Cassandra ei gariad, rhoddodd felltith arni: y byddai bob amser yn proffwydo'r dyfodol yn gywir, ond na fyddai neb byth yn ei chredu.

Proffwydodd Cassandra ddinistr Caerdoea yn Rhyfel Caerdroea, a rhybuddiodd am ystryw Ceffyl Pren Caerdroea, ond ni chredwyd hi a syrthiodd y ddinas. Credai ei theulu ei bod yn orffwyll. Wedi cwymp y ddinas, rheibiwyd hi gan Aiax y Lleiaf; yna cymerodd Agamemnon hi yn ordderch. Llofruddiwyd Cassandra ac Agamemnon gan Clytemnestra, gwriag Agamemnon, a chariad Clytemnestra, Aegisthus, wedi i Agamemnon anwybyddu rhybudd Cassandra.