Arctic Monkeys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 32: Llinell 32:
[[Delwedd:Arctic Monkeys - Whatever People Say I Am.jpg|bawd|200px|Clawr Dadleuol 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not']]
[[Delwedd:Arctic Monkeys - Whatever People Say I Am.jpg|bawd|200px|Clawr Dadleuol 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not']]
* ''[[Whatever People Say I Am, That's What I'm Not]]'' (2006)
* ''[[Whatever People Say I Am, That's What I'm Not]]'' (2006)
* ''[[Favourite Worst Nightmare]]'' (2007)
* ''Favourite Worst Nightmare'' (2007)
* ''[[Humbug (albwm)|Humbug]]'' (2009)
* ''Humbug'' (2009)
* ''Suck it and See'' (2011)


[[Categori:Bandiau Seisnig]]
[[Categori:Bandiau Seisnig]]

Fersiwn yn ôl 16:10, 6 Mehefin 2011

Yr Arctic Monkeys

Band roc o Sheffield ydy'r Arctic Monkeys. Yr aelodau yw Alex Turner (Prif Ganwr a Gitar), Jamie Cook (Prif Gitar), Nick O'Malley (Gitar Bâs - aelod newydd, gan fod gitarydd bâs gwreiddiol y band, Andy Nicholson, wedi penderfynu gadael), a Matt Helder (Drymiau). Cafodd MySpace ddylanwad enfawr ar eu llwyddiant cynnar, ac aeth eu sengl cyntaf, 'I Bet That You Look Good On The Dancefloor' i rif 1 yn siartiau Prydain. Daeth llwyddiant pellach yn fuan wedyn, ar ôl i'w halbwm cyntaf, 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not', gyrraedd rhif 1 yn y Deyrnas Unedig, lle torrodd y record am y nifer a werthwyd yn yr wythnos gyntaf o werthiant. Enillodd yr albwm wobr Mercury Music yn 2006, fel yr albwm gorau'r flwyddyn. Hefyd enillodd yr albwm yn y categori 'Albwm Gorau' a'r band yn ennill y teitl 'Band Prydeinig Gorau' yn seremoni gwobrwyo'r BRITS yn 2007. Yn 2007 hefyd, rhyddhaodd y band eu hail albwm, 'Favourite Worst Nightmare', a gafodd ei enwebu am wobr Mercury Music yn 2007. Perfformiodd y band fel un o'r prif fandiau yng Ngwyl byd-enwog Glastonbury ym mis Mehefin 2007. Enillodd yr albwm y wobr am yr albwm gorau, ynghyd â'r wobr am y band gorau yng Ngwobrau'r BRITs yn 2008 am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyfeirir at y band yn aml fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y funud ac mae gwerthiant eu recordiau a'r gwobrwyon maent wedi ennill yn adlewyrchiad teg o hyn.


Ymddangosiadau Ar y Teledu

Ym mis Hydref 2005, ymddangosodd y grŵp ar y teledu am y tro cyntaf, gan berfformio ar 'Popworld' (Hydref 15fed), 'E4 Music' a 'Later...with Jools Holland' (28ain Hydref). Ers yr ymddangosiadau hyn fodd bynnag, daeth y band yn enwog am wrthod a pherfformio ar raglenni teledu eraill. Dro ar ôl tro, roeddent wedi gwrthod cynigion i chwarae ar sioe siartiau'r BBC, 'Top of the Pops' yn ogystal a CD:UK ar ITV.

Gwelwyd penderfyniad y band i beidio a pherfformio yng Ngwobrau'r BRITs fel rhan o'u atgasedd tuag at fyd y teledu, er i ddatganiad i'r wasg esbonio fod hyn yn sgîl y ffaith eu bod wedi trefnu eisoes i fynd ar Daith Gwobrau NME. Yn eu haraith derbyn i wobr Act Newydd Gorau, a gafodd ei recordio ymlaen llaw, llwyddodd y band i ddarganfod "pumed aelod dirgel" a wnaeth yr holl siarad. Daeth i'm amlwg mai Keith Murray, prif leisydd We Are Scientists a ffrind i'r band a dderbyniodd y wobr ar eu rhan er mwyn cymhlethu'r gynulleidfa.

Er gwaethaf eu hatgasedd o ymddangos ar deledu Prydeinig, gwnaeth y band eu hymddangosiad teledu mwyaf pan ymddangosasant ar Saturday Night Live ar yr 11eg o Fawrth 2006 er mwyn dechrau eu taith o amgylch y Deyrnas Unedig. Gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y daith hon. Roedd eu perfformiad yn cynnwys y caneuon "I Bet You Look Good on the Dancefloor" a "A Certain Romance", a gwelwyd y gair "ASBO" wedi'i argraffu ar y drwm bâs. Fodd bynnag, ychydig cyn y solo gitâr yn "A Certain Romance", beirniadodd Turner aelod o'r gynulleidfa a oedd yn dylyfu gên a thaflodd Cook ei gitâr tuag at uchel-seinydd ar ddiwedd y gân.

Yr Arctic Monkeys yn mynychu Gwobrau'r BRITs yn 2008.

Ym mis Chwefror 2007, ni fynychodd y band seremoni Gwobrwyo'r BRITs am eu bod yn recordio'r fideo cerddorol ar gyfer eu sengl newydd "Brainstorm" ar yr un diwrnod. Er i ambell berson weld y penderfyniad hwn fel ffordd arall o sarhau'r BRITs, dywedodd Helders wrth BBC 6 Music "We're filming the video that day, so we're not going to be anywhere near it. We haven't snubbed it, we're just busy boys getting ready to go on tour again." Wedi iddynt ennill categorïau "Band Prydeinig Gorau" a'r "Albwm Prydeinig Gorau", danfonodd y band eu hareithiau diolch ar ffurf fideo. Ar y fideo, gwelwyd y band wedi'u gwisgo i fyny fel cymeriadau o The Wizard of Oz a The Village People. Ymddangosodd y band hefyd ar nifer o sioeau siarad yn hwyr yn y nos megis Late Night with Conan O'Brien, Late Show with David Letterman, Jimmy Kimmel Live! a Later with Jools Holland.

Ym mis Chwefror 2008 mynychodd y grŵp seremoni Gwobrwyo'r BRITs, lle enillasant yr Albwm Prydeinig Gorau am Favourite Worst Nightmare a'r Grŵp Prydeinig Gorau. Cawsant eu henwebu am Act Gorau Prydeinig sy'n Perfformio'n Fwy, ond enillodd Take That y wobr honno.

Beirniadaeth Ohonynt a'u Hymddygiad Dadleuol

I raddau helaeth mae'r band wedi cael eu beirniadu yn sgil yr holl sylw a wnaeth y Wasg ohonynt wrth i'w poblogrwydd gynyddu. Cawsant eu disgrifio gan y beirniaid fel un band ymysg rhestr faith o fandiau a gafodd eu heipio'n ormodol gan NME. Yn ogystal â hyn, wrth iddynt ryddhau'r EP 'Who The Fuck Are The Arctic Monkeys?' dim ond tri mis ar ôl llwyddiant ysgubol eu halbwm cyntaf, gwelodd rhai hyn fel petaent yn ceisio cymryd cymaint o arian a phosib wrth eu cefnogwyr. Atebodd y band y feirniadaeth hyn trwy ddatgan eu bod yn rhyddhau cerddoriaeth newydd yn rheolaidd, nid i wneud arian ond yn hytrach er mwyn osgoi'r "diflastod" o dreulio tair blynedd yn teithio o amgylch y wlad gydag un albwm.

Roedd clawr yr albwm Whatever People Say I Am, That's What I'm Not, a ddangosai Chris McClure, ffrind i aelodau'r band yn ysmygu sigaret hefyd wedi cael ei feirniadu gan y Gwasanaeth Iechyd yn yr Alban am atgyfnerthu'r syniad fod ysmygu'n dderbyniol. Dangosodd glawr y CD ei hun lun o flwch-llwch yn llawn sigarennau. Gwadodd rheolwr cynnyrch y band yr honiad gan ddadlau'r gwrthwyneb. Dywedodd "You can see from the image smoking is not doing him the world of good".

Roedd y band hefyd yn rhan o seremoni di-drefn Gwobrau'r BRITs yn 2008, seremoni a feirniadwyd lawer; tra'n derbyn eu gwobr Brit am y Grŵp Prydeinig Gorau yn 2008, gwnaeth y band joc eu bod wedi dod o'r Ysgol y Brits yn Croydon. Mae disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn derbyn y cyfle i fod yn rhan o'r gynulleidfa yn ystod y seremoni; mae Gwobrau'r Brits yn cefnogi'r ysgol yn helaeth. Daw'r band o Sheffield ac felly nid oedd wedi mynychu'r ysgol. Yn hytrach, roeddent yn gwawdio enillwyr blaenorol y noson sef Adele a Kate Nash (cyn-ddisgyblion o'r ysgol) , a ddiolchodd y dorf a'u hysgol yn ystod eu hareithiau wrth dderbyn eu gwobrau. Cafodd araith yr Arctic Monkeys ei fyrhau a'i olygu gan ITV.

Gwleidyddiaeth

Mae poblogrwydd yr Arctic Monkeys yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wedi arwain at wleidyddion a newyddiadurwyr yn cyfeirio at y band yn eu hareithiau a'u hysgrifennu. Ym mis Mai 2006, dywedodd Cynghellor y Trysorlys ar y pryd, Gordon Brown, mewn cyfwelid gyda chylchgrawn New Woman ei fod yn gwrando arnynt yn ddyddiol gan honni ei bod yn " really wake you up in the morning", er mewn cyfweliad yn hwyrach ni fedrai enwi'r un o'u caneuon. Yn ddiweddarach, adroddwyd fod Brown wedi cael ei gam-ddyfynnu. Mewn cyfweliadau ers hynny, mae Brown wedi cadarnhau nad yw'n eu hoffi mewn gwirionedd gan ddweud mai'r unig beth a ddywedodd yw y byddai'r band yn llwyddo i ddeffro person yn y bore. Parhaodd i gyfeirio at hyn yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol y Blaid Lafur pan yn sôn am y perygl o gynhesu byd-eang, gan ddweud ei fod yn "more interested in the future of the Arctic Circle than the future of the Arctic Monkeys". Cyfeiriodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, Menzies Campbell, at y band hefyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Democratiaid Rhyddfrydol, gan honni'n anghywir eu bod wedi gwerthu mwy o recordiau na The Beatles, sylwad a arweiniodd at lawer o wawdio gan y cyfryngau. Mynegodd helders ac O'Malley eu amheuon am y cyngherddau Live Earth yn 2007 hefyd.


Albymau

Clawr Dadleuol 'Whatever People Say I Am, That's What I'm Not'